Bydd etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal rhwng 1 a 22 Tachwedd.
Beth am gynnal eich ffug etholiad eich hun yn y cyfamser? Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfrannu at gynnig newidiadau yng Nghymru, a hynny drwy drafod pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc. Mae hwn yn gyfle gwych i ysbrydoli pobl ifanc i sefyll fel ymgeiswyr dros faterion y maen nhw'n angerddol yn eu cylch.
A yw'ch pobl ifanc eisiau dysgu mwy am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru? A ydyn nhw eisiau rhoi eu sgiliau dadlau ar brawf? Trowch eich ystafell ddosbarth neu'ch grŵp ieuenctid yn Siambr fach heddiw.
Canllaw cam wrth gam i redeg eich ffug etholiad:
- Penderfynu pa bynciau yr hoffech eu trafod yn ystod y ffug etholiad. Gallwch weld rhestr o bynciau datganoledig y mae'r Senedd yn gyfrifol amdanynt yma
- Rhannwch eich dosbarth yn bleidiau (3-4 fesul plaid) a gofynnwch iddynt enwi eu hunain e.e. 'Dreigiau Ardudwy'
- Gofynnwch i'r pleidiau flaenoriaethu materion o dan bob pwnc (ee Pwnc: Iechyd Mater: Amseroedd aros byrrach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl)
- I bob plaid greu 3-4 polisi ar eu materion â blaenoriaeth ar ffurf maniffesto (datganiad ysgrifenedig yw maniffesto yn egluro syniadau a barn y blaid)
- Dewiswch arweinydd i’r blaid a fydd yn cyflwyno ei maniffesto
- Arweinydd y blaid i gyflwyno ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa sy'n berthnasol i'w maniffesto
- Ar ôl i bob plaid roi cyflwyniad, cynnal pleidlais fyw
- Cyhoeddi’r blaid fuddugol (gallech chi hefyd feddwl am wobr os hoffech chi)
Os hoffech weld sut mae rhedeg ffug etholiad, gallwch wylio ein fideo 'Dewch i Ddadlau: Ffug Etholiad i bobl ifanc’ ar Senedd.TV.