Mae’n ddiwrnod cofio’r holocost. 75 mlynedd ers diwedd y rhyfel, mae’r un faint mor berthnasol ag erioed. Dyma hanes fy nheulu i.
Yn Wittenberg, yn yr Almaen, roedd fy hen hen dad-cu Dr Paul Bosse wedi priodi â fy hen hen fam-gu Käthe Bosse, ac yn byw gyda’u pedwar o blant. Llawfeddyg llwyddiannus iawn oedd Paul, ac fe wnaeth e a’i dîm achub llawer o fywydau ar ôl damwain leol, ffrwydrol, gan gwmni oedd yn gweithio â ffrwydron i gloddio am lo. Roedd hyn yn 1935, yn nyddiau cynnar Hitler fel arweinydd yr Almaen, ac roedd Paul mor adnabyddus yn ei waith y daeth Hitler ei hun i ymweld â’r ysbyty, i’w longyfarch e a’i dîm am helpu cymaint o bobl.
Roedd Käthe, gwraig Paul, o waed Iddewig. Er bod y Natsiaid yn ymwybodol o hyn, dywedon nhw wrth Paul y byddai ef, ei wraig, a’i blant yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod, gan fod Paul mor werthfawr yn feddygol i drigolion yr Almaen. Dyma’r rheswm pam wnaeth Käthe, na Paul, erioed feddwl am ffoi - roeddent yn credu y byddent yn ddiogel.
Yn 1933, rhoddodd y Natsiaid ddewis anghredadwy o annheg i Paul. Naill ai ysgaru â’i wraig Iddewig, neu golli ei swydd. Er ei fod yn caru ei waith, ac yn wych amdano- roedd e’n caru ei wraig, a’r teulu oedd yn dod gyntaf iddo. Cafodd ei ddi-swyddo yn 1935, a sefydlodd, gyda’i wraig, Klinik Bosse yng nghartre’r teulu- ysbyty i fenywod beichiog a’u babanod. Roedd yr ysbyty yma yn llwyddiant aruthrol, yn hollbwysig drwy wasanaethu Wittenberg ac roedd lleuanod yn ei gynorthwyo i redeg yr ysbyty. Yn ddiweddar cafodd y stryd lle’r oedd yr ysbyty ei hailenwi yn “Bosse Strasse” (Stryd Bosse) i gofio ac i gymerydwyo’r gwaith gwych a wnaeth Paul ac i gofio am hanes y teulu.
Tua diwedd 1944, ychydig cyn diwedd yr ail ryfel byd, cymerwyd Käthe i wersyll crynhoi Ravensbrück, lle cafodd ei lladd. Ni wyddwn hyd heddiw beth oedd yr amgylchiadau yn union, ond gallwn wybod â sicrwydd iddi golli ei bywyd dan amgylchiadau ofnadwy o greulon, am ei bod yn Iddewes.
Dros 75 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, gallwn fod yn ddiolchgar - rydym ni’n gallu dysgu am werth bywyd, a pha mor beryglus yw gwahaniaethu ar unrhyw sail. Dysgu pwysigrwydd parch, cariad, ac empathi tuag at ein cyd-ddyn. Mae’n bwysig cofio, nid yn unig galaru dros y bywydau a gollwyd, a’r teuluoedd a chwalwyd, ond hefyd, edrych i’r dyfodol. Rhaid i ni ddysgu o’r hanes ac estyn allan i’r rheiny sydd angen cymorth heddiw, i lenwi’r byd â chariad a dealltwriaeth, yn lle cenfigen a chasineb.
Daeth un o blant Paul a Käthe i’r Alban, yn ffoadur. Ei henw hi oedd Kate, fy hen fam-gu. Priododd hi Gymro, a gyda’i gymorth e, dysgodd hi Gymraeg yn rhugl a symud i’r Rhondda am ei fod yn athro yno; roedd hi’n awyddus i integreiddio, a pherthyn i’w gwlad newydd. Magodd hi ei phlant (yn cynnwys fy nhad-cu) yn uniaith Gymraeg. Mae hi’n arwres i mi- rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel, y ffordd wnaeth hi ymfalchïo yn ei bywyd newydd gyda breichiau agored.
75 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, dydy’r casineb ddim ar ben. Ar y foment, mae mwy na 10.4 miliwn o bobl yn byw fel ffoaduriaid yn fyd-eang, gyda bron hanner ohonynt yn blant. Pe bai neb wedi helpu ffoaduriaid yr ail ryfel byd, byddwn i ddim yma heddiw. Ac mae rhyfeloedd yn dal i barhau yn Syria, Iraq, ac Affganistan, gyda’r trigolion yno angen ein cefnogaeth yn fwy nac erioed.
Cymerwch y cyfle i sefyll yn erbyn yr holl anghyfiawnder a chasineb dall sy’n dal i fod yn y byd. Estynnwch law allan i’r rheiny sydd yn dal i ddioddef, wrth gyfrannu at elusen, wrth godi ymwybyddiaeth, ac ymgyrchu i dderbyn ffoaduriaid. Rhaid croesawu mwyfwy o bobl i’n gwlad, â breichiau agored, i ddechrau bywyd newydd, diogel.
Yn ysbryd y cofio, lledaenwch gariad.