Mae Iechyd Meddwl yn un o'm prif faterion, gan fy mod yn adnabod pobl sydd wedi dioddef yn wael gyda gorbryder a straen. Clywais straeon ar y newyddion am bobl ag iselder a wnaeth ei gadael hi'n rhy hwyr. Roeddwn bob amser am newid hynny.
Wrth wneud cais i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, sylweddolais mai dyma oedd y cyfle perffaith imi geisio gwneud y newid hwnnw.
Un o'r prif resymau y mae'n fwy anodd mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yw esblygiad technoleg a chyfryngau cymdeithasol, sy'n gallu gwneud cymaint o niwed â daioni.
Mae unigolion ar gyfryngau cymdeithasol yn ceisio arddel safonau o "Harddwch" nad ydynt yn realistig. Mae hyn wedi peri i bobl geisio cyrraedd y safonau hyn. O ganlyniad, mae rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn eu cyrff eu hunain. Cyfeirir at hyn fel hyder y corff, ac mae'r sefyllfa hon wedi cael ei chysylltu ag iselder a meddyliau am hunanladdiad.
Yn ogystal, mae cyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu defnyddio gan rai fel llwyfan i dwyllo a bwlio pobl. Os yw rhywun yn penderfynu defnyddio manylion ffug i greu cyfrif at ddibenion eich bwlio, gall fod yn anodd iawn dod o hyd i'r sawl sy'n gyfrifol. Credaf fod angen atgoffa gwleidyddion o'r ffaith bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn, a'r ffaith ei bod yn bosibl helpu sefyllfa hyd yn oed os yw'n amhosibl ei hatal yn llwyr.
Mae rhai pobl yn dweud bod y stigma ynghylch problemau iechyd meddwl wedi diflannu. Yn bersonol, rwyf yn anghytuno â hyn. Rwyf o'r farn na allwch gyffredinoli ar bwnc fel iechyd meddwl, sydd mor benodol i'r unigolyn dan sylw. Bydd gan bawb farn wahanol ar y mater, ac efallai na fydd rhai unigolion mor gyfforddus ag eraill o ran siarad am y peth. Bydd stigma bob amser yn bodoli, gan fod iechyd meddwl yn rhan o bwy ydych chi, a chan ei fod yn bwnc personol iawn.
Ni chafodd fy iechyd meddwl ei grybwyll o gwbl pan oeddwn yn ifanc. Yn fy marn i, dylai fod wedi cael ei grybwyll. Nid wyf yn awgrymu y dylai ysgolion cynradd ddechrau addysgu plant am iselder a hunanladdiad. Rwy'n awgrymu y dylent ddechrau addysgu plant, os ydynt yn teimlo gofid, am sut i siarad am y peth. Mae hynny oherwydd, pan fyddwch yn plannu'r syniad hwnnw, bydd yn aros gyda chi.
Yn y dyfodol, hoffwn weld athrawon yn cael hyfforddiant sylfaenol o ran gallu i adnabod arwyddion o iselder a gorbryder, ac o ran sut i ymdrin â'r arwyddion hynny. Os yw athro neu athrawes yn gweld nad yw disgybl sy'n dioddef o iselder wedi cwblhau ei waith ond nad ydynt yn gallu adnabod mai dyna yw'r rheswm, yna byddant yn gweiddi arnynt, a bydd hynny'n gwneud i'r disgybl deimlo'n waeth. Os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu cydnabod y ffaith bod y myfyriwr yn ofidus ac yn gallu siarad â nhw, gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr iddynt.
Yn ogystal, hoffwn weld ysgolion yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am arwyddion anhwylderau iechyd meddwl er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn gallu adnabod bod rhywun yn eu plith yn dioddef o anhwylder o'r fath. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod system gynghori briodol yn cael ei sefydlu mewn ysgolion os nad oes system o'r fath eisoes yn bodoli.
Mae'n amlwg bod angen newid. Mae hyn nid yn unig yn ymwneud â sut yr ydym yn ymdrin ag iechyd meddwl, ond ein canfyddiadau ohono hefyd. Rwy'n gobeithio y gallaf i a'm cyd-aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru helpu'r broses o gyflawni'r newid hwnnw.