Tachwedd 2022
Adroddiad gan Gwion Rhisiart a Betsan Angell
Cyflwyniad
Geiriau Betsan Angell
Cynhaliwyd Unfed ar Ddeg Cynhadledd Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn Senedd Trinidad a Tobago ym mis Tachwedd 2022, a oedd yn cynnwys pobl ifanc a oedd yn cynrychioli mwy na 50 o diriogaethau, gan gynnwys Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Bwriad y rhaglen oedd addysgu pobl ifanc ar ddemocratiaethau Seneddol a phrosesau deddfwriaethol, tra'n dathlu diwylliannau o bob cornel o'r byd. Cefais i a Gwion y fraint o gynrychioli’r Senedd a Chymru yn nigwyddiad Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, a’r dasg oedd, nid yn unig cynrychioli barn pobl ifanc, ond hefyd nodi sut yr oedd Cymru wedi arloesi yn y meysydd yr ydym wedi deddfu ynddynt. Fe wnaethom hefyd geisio addysgu cenhedloedd eraill y Gymanwlad am rôl Cymru yn y byd, yn enwedig yn yr oes ddatganoli, sydd wedi gweld pobl ifanc yn cael eu hetholfreinio yn hanesyddol, fel, drwy ostwng yr oed pleidleisio i 16, a phasio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol gyntaf y byd yn 2015.
Llun swyddogol Senedd Ieuenctid y Gymanwlad (CYP)
Dros y tridiau o fusnes Seneddol yn y Red House hardd, sef adeilad Senedd Trinbagonia, holltwyd y gynulleidfa’n ddwy ran, er mwyn trafod darn o ddeddfwriaeth ffug. Roedd Gwion yn aelod o'r Mudiad Gwleidyddol Newydd oedd yn llywodraethu, ac roeddwn i yn yr Wrthblaid, sef yn rhan o'r Blaid Lafur Genedlaethol. Roedd dadlau ynghylch y Bil yn galluogi inni gael cipolwg ar sut mae prosesau Seneddol yn gweithio, a fydd yn ein helpu i gynrychioli problemau pobl ifanc yn well ar flaen agenda’r llywodraeth. Ar wahân i hyn, roedd creu atgofion gyda ffrindiau oes o bedwar ban y byd yn rhywbeth y byddaf i a Gwion yn ei drysori. Mae dysgu am y diwylliannau cyfoethog hyn wedi’n cyfnerthu fel arloeswyr ar gyfer pobl ifanc, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth AS a changen y Senedd o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a Senedd Trinbagonia am roi’r cyfle inni gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.
Diwrnod 1
Geiriau Gwion Rhisiart
Dechreuasom y diwrnod cyntaf gyda Chyflwyniadau, a chafwyd cyfle i gwrdd â'n cyd-gynrychiolwyr o Genhedloedd y Gymanwlad. Roedd hwn yn gyfle euraidd i ddod i adnabod ein gilydd, yn enwedig cyn i ni rannu’n ddwy ochr i’r ddadl Yn dilyn hyn cafwyd Agoriad Ffurfiol 11eg Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, gydag anerchiadau gan Ei Ardderchogrwydd a Llywydd Dros Dro Senedd Trinbagonia a Mr Stephen Twigg, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a roddodd groeso cynnes i ni, ac a roddodd gyngor cadarn inni o’i brofiad ef o ddegawdau o wasanaeth cyhoeddus, wrth inni drafod y ffug ddeddfwriaeth. I gloi’r seremoni, cafwyd perfformiad syfrdanol gan y côr Seneddol o gerddoriaeth Caribïaidd, gan arddangos y gorau o ddiwylliant Trinidad a Tobago – fe’n gwnaeth yn genfigennus nad oedd gennym ni ein côr ein hunain yn y Senedd!
Yn y prynhawn, cawsom drafodaeth banel ysgogol ar rôl Aelodau o’r Senedd a’u profiadau, gydag ASau Trinbagonia yn rhoi eu cyngor o ran pasio deddfwriaeth. Clywsom sut y gall rhyngweithio â’r cyfryngau fod o fudd aruthrol i’r llywodraeth a’r wrthblaid, ac arwain at y ddwy fainc flaen yn cynnal cynhadledd i’r wasg gyda chyfryngau cenedlaethol Trinidad a Tobago. Clywsom hefyd gan ASau benywaidd y Senedd am yr heriau a wynebwyd ganddynt wrth sefyll am y tro cyntaf. Rhoesant gyngor ysbrydoledig inni ar ymdrin ag aflonyddu, a goresgyn hyn i fod yn fodelau rôl cryf i bobl ifanc.
Y ddadl yn dechrau
Digwyddiad olaf y dydd oedd dechrau’r ddadl Seneddol, yn Siambr Tŷ’r Cynrychiolwyr. Cyflwynodd fy mhlaid i y Bil Gweithio o Bell i’r Tŷ drwy ein Gweinidog Gweinyddiaeth Gyhoeddus (yr hwn yr oeddem wedi’i ethol), a roddodd araith gyffrous o blaid y Bil. Roedd hyn yn dilyn ymateb gan Weinidog yr Wrthblaid, a ddadleuodd yn rhesymol bod angen diwygio’r Bil. Roedd y Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer Wythnos Waith Pedwar Diwrnod i weithwyr, yn ogystal â darpariaeth gweithio o bell, y byddai’n rhaid gwneud cais amdanynt drwy’r cyflogwr. Wedi hynny, gohiriwyd y trafod hyd y dydd canlynol, pan fyddai Cyfnod nesaf y bydd yn cael ei gynnal.
Fin nos, cynhaliwyd Derbyniad Croeso yn Rotwnda hardd y Tŷ Coch, gydag Aelodau o’r Senedd leol, Uchel Gomisiynwyr a Llysgenhadon yn bresennol. Cyflwynodd band lleol berfformiad hyfryd, a oedd unwaith eto yn arddangos y dalent gerddorol sydd yn y Caribî. Yn ystod y derbyniad, gwnaethom gyfarfod ag Uchel Gomisiynwyr o bob rhan o'r Gymanwlad, gan rannu ein profiadau â Senedd Ieuenctid Cymru o ran y newidiadau cadarnhaol y gellir eu gwneud i wella cynrychiolaeth pobl ifanc. Cyfarfuom yn fyr hefyd â’i Hardderchowgrwydd Harriet Cross, Uchel Gomisiynydd Prydain, a wahoddodd y cynadleddwyr o Brydain i ginio yn yr Uchel Gomisiwn fel y byddaf yn sôn yn nes ymlaen. Roedd yn noson hynod bleserus, pan wnaethom lawer o gysylltiadau a dysgu rhagor am ddemocratiaethau y naill a’r llall.
Diwrnod 2
Geiriau Betsan Angell
Ar yr ail ddiwrnod, dechreuasom ar y Cyfnod nesaf o drafod y Bil Gweithio o Bell, lle roedd gan bob Aelod hyd at 8 munud i siarad naill ai o blaid neu yn erbyn y Bil. Dechreuodd y Prif Weinidog y ddadl, gan nodi sut yn yr un ffordd ag yr oedd economi ffuglennol Kairi a Chaconia wedi addasu yn ystod COVID-19, roedd angen iddi addasu i newidiadau hirdymor hefyd. Dadleuodd, er mwyn creu economi fwy cynaliadwy ac iachach yn yr hirdymor, bod galluogi gweithio o bell ac wythnos Waith Pedwar Diwrnod yn hanfodol. Cafwyd cymeradwyaeth gynnes ar ôl ei araith, ynghyd ag areithiau’r holl Aelodau eraill, a oedd yn dangos cefnogaeth gref i’r Bil. Rhoddwyd y briff addysg i Gwion ar gyfer ei araith, ac felly canolbwyntiodd ar effeithiau'r Bil ar y maes polisi hwnnw. Dadleuodd y byddai Wythnos Waith Pedwar Diwrnod yn arwain at gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith i fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd, ac yn cryfhau'r system addysg sydd wedi'i chyfuno o dan bolisïau'r llywodraeth. Soniodd hefyd am sut y gallai Wythnos Waith Pedwar Diwrnod roi amser i ddinasyddion ddysgu’r ieithoedd lleiafrifol cenedlaethol fel y Creole a Sbaeneg, yn debyg i sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwersi Cymraeg i weision sifil. Daeth araith Gwion i ben drwy ofyn i’r Aelodau bleidleisio o blaid y Bil, gan y byddai’n creu cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, ac yn darparu cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol yn y gweithle sy’n esblygu’n barhaus.
Rhinweddau
Ar y llaw arall, siaradais i yn erbyn y Bil, gan ddadlau ei fod wedi ei ysgrifennu’n wael ac y gallai anghysondebau penodol ganiatáu i weithwyr allweddol fel staff gofal iechyd wneud cais am Wythnos Waith Pedwar Diwrnod pan oedd hyn yn amhosibl iddynt ei gyflawni. Er fy mod yn cydnabod rhinweddau newid ein hamgylchedd gwaith, ni allwn dderbyn y Bil fel y’i cyflwynwyd, ac felly anogais y llywodraeth i dderbyn gwelliannau y byddem ni’n eu cyflwyno yn y Cyfnod nesaf o ddarllen y Bil. Un araith dwymgalon ac emosiynol a gafwyd yn y sesiwn oedd un Kilisitina Moala, a oedd yn cynrychioli Tonga ar ochr y llywodraeth, sy’n haeddu canmoliaeth. Gwnaeth araith bwerus a thorcalonnus yn amlygu effeithiau newid hinsawdd ar ei gwlad enedigol, Tonga, gyda’r ynys yn cyfrannu dim ond at 0.3% o allyriadau byd-eang, ond eto’n wynebu’r effeithiau mwyaf peryglus yn ei sgil. Cododd y ddwy ochr i gymeradwyo Kilisitina am ei haraith ddewr, a oedd yn dadlau’n argyhoeddedig y gallai newid ein patrymau gwaith helpu i liniaru newid hinsawdd. Ar ôl i bob Aelod gyflwyno araith ar y Bil, daeth ail Gyfnod y Bil i ben, ac roedd yr ystyriaethau cyffredinol ar y Bil wedi dod i ben hyd cyfnod olaf y Bil, ar y trydydd diwrnod.
Y noson honno, roedd Senedd y wlad wedi trefnu noson ddiwylliannol i arddangos traddodiadau gorau Trinidad a Tobago. Pan gyrhaeddwyd y lleoliad, cawsom wledd o fwyd Trinbagonian, gan gynnwys yr enwog fara fflat dwbl gyda gwygbys cyri a siytni. I lawer ohonom, roedd cael blasu bwyd Caribïaidd yn sicr yn uchafbwynt, ac roed y bwyd blasus yn sicr yn gofiadwy iawn i ni i gyd! Yna cawsom ddatganiad gan fand drymiau dur a rapiwr, a oedd yn chwarae caneuon enwog o'r Caribî a thu hwnt. Byddai'n anodd crynhoi'r noson mewn un gair - mae ansbaradigaethus yn un gair sy'n sicr yn gwneud cyfiawnder â’r noson. Am noson dda!
Diwrnod 3
Geiriau Gwion Rhisiart
Erbyn y trydydd diwrnod, roeddem wedi gwneud ffrindiau mor dda ac wedi treulio cymaint o amser gyda'n gilydd fel ei bod yn anodd credu bod yn rhaid i ni wahanu y diwrnod wedyn - roedd yr wythnos yn brofiad bythgofiadwy. Gan roi’r atgofion a wnaethom o’r neilltu, aethom ymlaen â’r Cyfnod olaf o ddarllen y Bil — a gwneud y gwelliannau. Roedd y Llywodraeth a'r Wrthblaid wedi cyflwyno llawer o welliannau - yn debyg i weithdrefnau Seneddol gwirioneddol, roedd yn broses digon diflas a oedd yn cynnwys llawer o drafod!
Cynigiodd y Llywodraeth welliannau a oedd fwy neu lai yn cywiro rhannau rhydd o’r Bil, gydag un gwelliant yn cywiro’r ddeddfwriaeth fel bod dirwyon o hyd at $250,000 yn gallu cael eu gweithredu gyda rhai sy’n torri’r gyfraith, yn hytrach na $250,000 yn llawn, a allai achosi i fusnesau bach fynd yn fethdal. Digwyddodd hyn yn dilyn trafodaethau gyda’r meinciau cefn, a ddysgodd i ni sut y gallwn geisio gwell polisïau ar gyfer pobl ifanc o fewn Seneddau.
Gwelliant brys
Ar nodyn arall, cynigiodd yr Wrthblaid welliant i ddiwygio’r Comisiwn Cysylltiadau Diwydiannol a fyddai’n barnu achosion lle’r oedd y cyflogwr yn gwrthod polisi gweithio o bell neu wythnos waith pedwar diwrnod. Gan na fyddai gan farnwyr y gwelliant a gynigwyd o reidrwydd lawer o brofiad, cytunodd y ddwy ochr i welliant brys i benodi barnwyr yn annibynnol. Roedd yn dangos sut y gall cydweithredu â’r gwrthbleidiau weithio allan er gwell, gan fod y ddwy ochr yn gweithio i gael y gorau i’w hetholwyr.
Yn olaf, rhoddodd y Llefarydd bleidlais ar y Bil Gweithio o Bell diwygiedig, ac fe’i pasiwyd yn unfrydol gan Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, a oedd yn nodi cadarnhad o arferion gwaith newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Er bod y ddeddfwriaeth yn Fil ffug, gallai hyn roi hwb ar gyfer cam gan bobl ifanc am amodau gwaith gwell yn y dyfodol - gydag Wythnosau Gwaith Pedwar Diwrnod yn cael eu treialu ledled y byd. Bu'r siambr gyfan yn curo dwylo wrth i'r Llefarydd gyhoeddi bod y Bil wedi'i basio, ac yna cafwyd Seremoni i Gloi’r digwyddiad. Diolchodd y Llefarydd a Stephen Twigg i’r Aelodau am gyfraniadau meddylgar, a dymunodd lwc inni ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd y ddwy ochr eu diolch i bawb a wnaeth yr wythnos fythgofiadwy yn bosibl, a nodwyd diwedd yr 11eg Senedd Ieuenctid y Gymanwlad.
I gloi’r rhaglen, cynhaliwyd cinio ffarwel yn Chaguaramas i bawb a fu’n cymryd rhan. Unwaith eto cawsom wledd o fwyd a cherddoriaeth Trinbagonia, gyda staff y Senedd yn diolch i ni am ein presenoldeb a'n hymroddiad.
Diwrnod 4
Geiriau Gwion Rhisiart
Yn olaf, gwahoddwyd Betsan a minnau (ynghyd â chynrychiolwyr eraill y DU) i Uchel Gomisiwn Prydain ym Mhorthladd Sbaen. Cawsom ein croesawu gan yr Uchel Gomisiynydd, Ei Hardderchogrwydd Harriet Cross, a’i Dirprwy, a chawsom gyfle i drafod y profiad anhygoel a gawsom yn Trinidad dros yr wythnos ddiwethaf! Buom hefyd yn trafod gwahanol faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc, yn enwedig yn ymwneud â democratiaeth a rhyddfreinio pleidleiswyr. Diolch i'r Uchel Gomisiynydd am ein gwahodd!
Casgliadau
Geiriau Betsan Angell
Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos fythgofiadwy a gawsom, roedd yn wirioneddol yn anrhydedd gallu cynrychioli Cymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad. Cyn mynd, roeddem yn ansicr ynghylch yr effaith y gallem ei chael mewn gofod o'r fath. Fodd bynnag, roedd cymryd rhan mewn ffug Senedd wedi cryfhau ein safbwynt o ran cynrychioli pobl ifanc Cymru, drwy ddeall ffyrdd newydd o sicrhau bod deddfwriaeth yn gwella bywydau pobl ifanc.
Er bod y Bil a basiwyd yn un ffug, mae'r cysyniad o Wythnos Waith Pedwar Diwrnod yn y byd go iawn ymhell o fod yn freuddwyd yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ymchwilio i gynlluniau peilot ar gyfer Wythnos Waith Pedwar Diwrnod, ac mae llawer o gwmnïau preifat yn treialu'r prosiect yn llwyddiannus. Fe wnaethom hefyd ddangos sut mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd drwy gychwyn polisi gweithio o bell ar gyfer pob gwas sifil, yn ogystal â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Er ein bod yn dadlau’n frwd o ran y safbwyntiau a oedd wedi’u dyrannu i ni, daethom at ein gilydd i greu arferion gwaith newydd a mwy iach ar ran pobl ifanc. Roedd gwneud hynny wedi rhoi hyder i ni i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd wrth hyrwyddo lleisiau pobl ifanc, yn enwedig gan fod pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed erbyn hyn yn gymwys i bleidleisio. Roedd ein profiad yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn fythgofiadwy, ac yn addysgiadol hefyd - dysgodd inni y gallwn rymuso pobl ifanc i fod yn arloeswyr ac yn Seneddwyr fel ei gilydd. Diolch o galon eto i Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, i’r Senedd, ac i Senedd Trinidad a Tobago am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Seneddwyr.