Holwyd plant a phobol ifanc rhwng 9-25 oed, a chasglwyd yr holl ymatebion ynghyd yn ystod y cyfnod clo mawr (lockdown). O ganlyniad i COVID-19, bu'n rhaid i ni ohirio digwyddiadau di-blastig ym mis Mawrth, a'r broses o lansio'r ymgynghoriad hefyd. Er gwaethaf hyn, gwnaethom lwyddo i gasglu ymatebion gan 600 o bobl ifanc.
Yn ystod wythnos Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Gorffennaf, cafodd pobl ifanc o bob rhan o Gymru eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein ar ‘Y Gorau o’n Gwastraff’, ac i gymryd rhan mewn dadl, ‘Newid Hinsawdd: Cyfrifoldeb Pwy?’. Cynhaliwyd trafodaeth bellach gyda phum aelod o’r Pwyllgor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Amgen, sef digwyddiad ar-lein, a ddarlledwyd ar 8 Awst, 2020. O dan arweiniad y cyflwynydd tywydd Steffan Griffiths, clywsom am beryglon a'r newidiadau ein byd sydd yn amlygu ei hunain eisoes o ganlyniad i Newid Hinsawdd. Trafodom hefyd ein safbwyntiau ni a'n dyheadau am ddyfodol gwyrddach.
Mae'r Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig yn teimlo'n angerddol dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael llais cryfach yn y maes hwn, bod mwy o ddarpariaeth ar gael i gynorthwyo'r broses o ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau sbwriel a gwastraff plastig, a bod y sefyllfa yn newid ar frys.