Dewch i ddweud eich dweud ar Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm yn ein digwyddiadau rhanbarthol.
Rydym yn gyffrous iawn i’ch gwahodd chi i ddigwyddiadau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru. Mae’n gyfle gwych i gyfarfod Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac i gymryd rhan yn eu gwaith.
Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi penderfynu canolbwyntio ar Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm yn gyntaf gan eu bod am fanteisio ar y cyfle i fwydo syniadau i’r Cwricwlwm drafft i Gymru, cyn cyflwyno eu hargymhellion pan fydd Senedd Ieuenctid Cymru yn eistedd nesaf yn y Senedd ym mis Hydref 2019.
Er mwyn cyfarfod â phobl ifanc ledled Cymru i gwblhau gwaith ymchwil Senedd Ieuenctid Cymru i Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm, byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad ym mis Gorffennaf ar gyfer ysgolion uwchradd, colegau a sefydliadau ieuenctid.
Lleoliad: Stadiwm y Liberty, Abertawe
Dyddiad: Dydd Llun, Gorffennaf 8fed, 2019
Amser: 10:00 - 14:30
-
Lleoliad: Canolfan Catrin Finch, Wrecsam
Dyddiad: Dydd Gwener, Gorffennaf 12fed, 2019
Amser: 10:00 - 14:30
Bydd cyfle hefyd, yn ystod y digwyddiadau hyn, i gael blas ar amrywiaeth o weithgareddau Sgiliau Bywyd sydd ar gael gan amryw o sefydliadau. Bydd hyn hefyd yn gyfle gwych i athrawon rwydweithio a rhannu syniadau.
Dyma fraslun o’r sesiynau fydd yn cael eu cynnwys yn ystod y diwrnod. Mi fydd y sawl sydd yn archebu lle yn derbyn agenda fwy manwl yn nes at yr amser.
· Panel Holi ac Ateb (ASIC, Aelod(au) Cynulliad a gwestai gwâdd)
· Grwpiau ffocws gyda phobl ifanc ac athrawon yn edrych ar Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm
· Marchnad o stondinau i gael blas ar wahanol sesiynau Sgiliau Bywyd
ARCHEBWCH LE:
I gadw lle, cysylltwch â’n Tîm Gwybodaeth i’r Cyhoedd:
Ffôn: 0300 200 6204
E-bost: Contact@cynulliad.cymru