Mae Diwrnod Cenedlaethol "Dod Allan" yn cael ei nodi'n fyd-eang bob blwyddyn ac mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r trafferthion y mae aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu. Mae'n galluogi pobl LHDTC+ i rannu eu profiadau a deall bod pobl eraill fel nhw wedi wynebu'r un heriau a sefyllfaoedd. Mae'n galluogi pob un ohonom i edrych tuag at ddyfodol pan fydd "dod allan" yn ddiangen gan y bydd tybiaethau am rywioldeb a hunaniaeth rhywedd pobl ac am yr hyn sy'n "arferol" yn cilio o'r diwedd.
A ydych erioed wedi cael trafferth gyda "dod allan?" Os ydych, nid ydych ar eich pen eich hun! Bydd llawer o bobl sy'n darllen hyn sy’n cael trafferth "dod allan" i'w ffrindiau, eu cydweithwyr, a'u teuluoedd ac, o brofiad, nid yw'n hawdd. Mae dau o bob pum myfyriwr LHDTC+ (42 y cant) wedi cuddio eu hunaniaeth yn y brifysgol rhag ofn gwahaniaethu ac mae 30 y cant o ddynion deurywiol, ynghyd ag 8 y cant o fenywod deurywiol, yn dweud na allant fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol gyda’r un o'u ffrindiau. Camsyniad cyffredin am "ddod allan" yw ei fod yn syml ac mai dim ond unwaith y mae'n rhaid ei wneud; yn anffodus ni allai hyn fod yn bellach o'r gwir. Mae llawer o bobl y byddwch efallai'n teimlo bod angen i chi "ddod allan" iddynt ac mae’n anoddach oherwydd tybiaethau cymdeithasol sy'n ystyried mai hunaniaethau "syth, cisryweddol" yw’r sefyllfa ddiofyn a’r norm.
Mae rhai pobl yn dadlau nad oes angen achlysuron fel Diwrnod Cenedlaethol "Dod Allan", ond mae llawer yn dal i wynebu'r frwydr "dod allan" i'w teulu, eu ffrindiau, eu cydweithwyr ac eraill, ac yn teimlo ei bod yn rhan bwysig o'u taith i fyw eu bywydau gwir a dilys. Bydd Diwrnod Cenedlaethol "Dod Allan" yn parhau i fod mor hanfodol ag yr oedd pan ddechreuodd yn 1988, cyhyd â bod pobl yn teimlo'r angen i "ddod allan" i eraill.
Cyn i mi ddod allan, roeddwn yn cael llawer o drafferth gyda fy iechyd meddwl. Mae "cuddio" yn wir yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd meddwl rhywun. Fodd bynnag, mae cefnogaeth bob amser i unrhyw un sy'n "dod allan", yn enwedig gan sefydliadau a rhwydweithiau cymorth fel The Proud Trust, Mind Out, Stonewall, a llawer mwy. O'm profiad i, roedd "dod allan" yn brofiad heriol iawn, yn emosiynol ac yn feddyliol, ac eto o'r eiliad y "des i allan" i’m ffrind cyntaf, roeddwn yn teimlo ton o ryddhad.
Roedd "dod allan" yn agoriad llygad i’r ffordd y mae pobl LHDTC+ yn cael eu trin a chyn lleied oedd pynciau LHDTC+ yn cael eu trafod mewn ysgolion. Gwnaeth y rhwystredigaeth fy annog i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol ac ymgyrchu, ac felly pan welais y cyfle i ymgeisio fel aelod Senedd Ieuenctid Cymru fis Tachwedd y llynedd, nodais fy enw ar unwaith. Drwy gydol fy ymgyrch fel cynrychiolydd Canol Caerdydd rwyf wedi ymdrechu i gael mwy o addysg ar faterion a hanes LHDTC+, y tu mewn i'r ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Yn ogystal â rhoi llwyfan i mi fel y gallwn sefyll dros yr hyn rwy'n credu ynddo, roedd ymgeisio fel aelod Senedd Ieuenctid Cymru yn help i mi deimlo'n fwy cyfforddus o ran pwy ydw i. Ers dod yn aelod o SIC, rwyf wedi gallu rhannu fy marn am bynciau LHDTC+ â Gweinidogion Llywodraeth, Aelodau Seneddau ac ymgyrchwyr LHDTC+ dylanwadol eraill gyda'r bwriad o wella'r sefyllfa bresennol a gwneud Cymru'n lle mwy diogel a chroesawgar i bobl ifanc yn y gymuned LHDTC+.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud wrth unrhyw un sy’n cael trafferth gyda'r broses o "ddod allan" ar hyn o bryd, cymerwch eich amser, gwnewch eich penderfyniadau eich hun, a chofiwch fod pwy ydych a phwy rydych am fod bob amser; peidiwch byth â gadael i neb ddweud wrthych sut i fyw neu beidio â byw eich bywyd. Diwrnod "Dod Allan" Hapus.
Ellis Peares ( ef, he/him )