Mae'r rhestr derfynol o 20 o sefydliadau partner wedi'i chyhoeddi, cyn trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru.
Bydd pob sefydliad partner yn cynnal etholiad i ddewis y person ifanc 11 – 17 oed a fydd yn eu cynrychioli dros y tymor nesaf o ddwy flynedd.
Nhw fydd yn ffurfio'r senedd 60 aelod, ochr yn ochr â 40 o aelodau sy'n cael eu hethol o bob un o etholaethau Cymru.
Mae enwebiadau ar gyfer aelodau etholiadol ar agor tan 30 Medi 2024.
Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu hethol i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu dyfodol.
Mae’r system sefydliadau partner wedi bod ar waith ers dechrau’r Senedd Ieuenctid – gan helpu i sicrhau senedd amrywiol, gyda chynrychiolaeth gan bobl sy’n agored i niwed, neu’r rheini o gefndiroedd ymylol.
Mae sefydliadau partner y tymor hwn yn cynnwys y rheini sy'n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref, plant ag anableddau a phobl ifanc LGBTQ+.
Sgoriwyd ceisiadau i ddod yn sefydliad partner yn seiliedig ar nifer o ffactorau, a'u dewis i gynrychioli ystod o achosion ac ardaloedd daearyddol.
Dyma’r rhestr lawn o sefydliadau partner ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru:
GISDA
Llamau
Anabledd Dysgu Cymru
Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan (cais ar y cyd)
Talking Hands
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
Tros Gynnal Plant Cymru
Race Council Cymru
Digon (grŵp ieuenctid LGBTQ+ yn Ysgol Gyfun Plasmawr)
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Voices from Care Cymru
NYAS
Urdd Gobaith Cymru
Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
GirlGuiding Cymru
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS), Rhondda Cynon Taf
Cyngor Abertawe
Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George
Gweithredu dros Blant (Ysgol Headlands, Penarth)