Grŵp o bobl ifanc yn eistedd wrth fwrdd yn siarad â'i gilydd.

Grŵp o bobl ifanc yn eistedd wrth fwrdd yn siarad â'i gilydd.

Senedd Ieuenctid Cymru am ailwampio gwasanaethau iechyd meddwl ar frys

Cyhoeddwyd 25/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/11/2022   |   Amser darllen munudau

Does dim digon o gynnydd wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru - er gwaethaf cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru.

Dyna gasgliad adroddiad a gafodd ei lansio heddiw gan Bwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant Senedd Ieuenctid Cymru (Senedd Ieuenctid). 

Bydd yr adroddiad 'Meddyliau Iau o Bwys' yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arbennig o'r Senedd y bore yma, lle bydd dirprwy weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd meddwl, Lynne Neagle AS, yn wynebu cwestiynau gan aelodau o'r Senedd Ieuenctid.

Yn eu plith, bydd cwestiwn allweddol yr adroddiad: Pam mae cymorth iechyd meddwl yn parhau i fod yn fater mor fawr i bobl ifanc yng Nghymru, er bod mwy o arian yn cael ei wario ar y broblem? 

Problemau parhaus

Mae adroddiad heddiw yn ddilyniant i’r gwaith a wnaed i ganfod problemau yn y senedd ieuenctid flaenorol, a gyhoeddodd yr adroddiad Gadewch i Ni Siarad am Iechyd Meddwl ddwy flynedd yn ôl. Mae llawer o'r problemau a gofnodwyd bryd hynny yn parhau i fod yr un mor bwysig nawr. 

Cafodd y Pwyllgor hefyd ei lywio gan yr ateb mwyaf erioed i ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru, a oedd yn cynnwys arolwg a gwblhawyd gan 3,679 o bobl ifanc. 

Yn anffodus, nid oedd canfyddiadau'r ymgynghoriad hwnnw'n syndod, gan ddangos bod llawer o waith i'w wneud o ran gwella llesiant emosiynol a meddyliol pobl ifanc. 

Dangosodd fod 28% o'r ymatebwyr yn cael trafferth gyda theimladau iechyd meddwl bob dydd - yr un canran ag arolwg 2020. 

Dywedodd Isaac Floyd-Eve, Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Ynys Môn ac aelod o'r pwyllgor iechyd meddwl:

“Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag unrhyw fath arall o iechyd.

“Gall diffyg triniaeth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl arwain at orbryder, anobaith, a cholli rheolaeth. Ond pan gaiff hyn ei newid er gwell, gallwn fod yn bobl rydyn ni i fod a gweld ystyr i’n bywydau o ddydd i ddydd.”

“Mae gwylio wrth i rai o fy ffrindiau agosaf wingo o dan afael anhwylder meddwl a rhoi’r gorau i geisio cael cymorth oherwydd pwy a ŵyr pa mor hir yw’r rhestrau aros, yn ddim byd llai na thrasiedi." 

Argymhellion:

Mae'r adroddiad yn gwneud 12 argymhelliad sydd wedi'u llunio i wella mynediad at gymorth mewn ysgolion, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a chefnogaeth gan arbenigwyr. 

Maent yn cynnwys galwad am ailwampio cefnogaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) ar frys. 

Roedd yr ymatebwyr yn yr arolwg yn feirniadol iawn o'r system CAMHS bresennol: dywedodd 44% o'r ymatebwyr fod yn rhaid iddynt aros yn hirach na tharged 28 diwrnod Llywodraeth Cymru am apwyntiadau cyntaf. Dywedodd 13% eu bod wedi aros rhwng 6 a 12 mis. 

O'r rheiny gafodd gefnogaeth CAMHS, dywedodd 39% o bobl ifanc bod y gefnogaeth yn wael. Roedd llawer o sylwadau a gasglwyd drwy'r ymgynghoriad yn dweud eu bod yn teimlo nad oedd gan y system y capasiti i ateb y galw, a'u bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu rhuthro drwy'r broses. 

Penwythnos Preswyl

Mae'r Cyfarfod Llawn heddiw, o dan gadeiryddiaeth y Llywydd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, yn rhan o benwythnos preswyl Senedd Ieuenctid Cymru, sydd hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgorau eraill y Senedd Ieuenctid, taith o'r Senedd a hyfforddiant i aelodau.

Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i godi materion sy'n bwysig iddyn nhw trwy gyfres o ddatganiadau 90 eiliad.