Ymgyrch 'Meddyliau Iau o bwys' yn lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda thrafodaeth panel pwrpasol

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Ymunodd y dylanwadwyr Ameer Davies- Rana (1 miliwn, Hansh) a Ffion Connick gyda ein Haelod ni o’r Senedd Ieuenctid ar gyfer Pontypridd – Ffion Fairclough ar ddydd Llun cyntaf yr Eisteddfod i drafod un o’n blaenoriaethau ni fel Senedd Ieuenctid – ‘Ein Hiechyd Meddwl a’n Lles.’ Hefyd yn ymuno yn y drafodaeth oedd Marc Lewis, arweinydd y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Gyfun Plasmawr ac arweinydd ein sefydliad partner Digon yn Ysgol Gyfun Plasmawr a Gwenno Davies, Dirprwy Ysgol Gyfun y Creuddyn. Daeth yr addysgwyr â phrofiadau helath a  mewnbwn pellach i’r drafodaeth.

Ameer Davies-Rana

Rhestrau aros, rôl fodelau a normaleiddio’r sgwrs

Ymysg y sylwadau oedd yr angen i leihau rhestrau CAMHS am gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ac eu bod ar hyn o bryd yn dorcalonnus (rhywbeth a nodwyd gan y Senedd Ieuenctid diwethaf). Nodwyd hefyd mor bwysig yw  rôl fodelau cadarnhaol. Soniodd Ameer am ddiffyg rôl fodelau yn ei brofiad fel person ifanc o leiafrif ethnig ac mor drist a niweidiol fu hiliaeth ar hunan-hyder rhai o’i gyfoedion. Clywsom hefyd am bwysigrwydd magu hunan-hyder a hunaniaeth gadarnhaol ymysg pobl ifanc. Soniodd Marc am waith y grŵp Digon – y grŵp LGBTQ+ yn Ysgol Gyfun Plasmawr a gwerth mynegiant drwy’r celfyddydau mynegiannol mewn ysgolion a phwysigrwydd normaleiddio’r sgwrs o amgylch iechyd meddwl pobl ifanc. Am ysbrydoliaeth!

Addysgu

Clywsom fod Ysgol y Creuddyn yn hyfforddi eu hathrawon nhw mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl gan Gwenno. Fe nodwyd gan y panel taw nid yn unig plant a phobl ifanc sydd angen cael eu haddysgu ond y rhieni hefyd. Roedd Ffion Fairclough o’r farn y byddai hefyd yn fuddiol i blant iau yr ysgol i allu siarad mewn sgyrsiau anffurfiol gyda’u cyfoedion yn y 6ed dosbarth. Clywsom alwadau gan y panel cyfan am gwnselwyr mewn ysgolion ond hefyd yr angen am ‘check-ins’ cyson i bobl ifanc gan ei bod hi’n bosib nad yw pobl ifanc yn medru adnabod eu symptomau eu hunain bob tro beth bynnag eu lefel gwybodaeth am faterion iechyd meddwl.

Gweithredu nid ariannu

Y gwir ateb ym marn Ffion Connick yw’r angen am fuddsoddiad ystyrlon gan y Llywdoraeth yn hytrach na thaflu arian tuag at iechyd meddwl pobl ifanc.

                                         Ffion Fairclough ASIC a'r dylanwadwraig, Ffion Connick

Diolch i’r panel am eu gwybodaeth, eu cyfraniadau a’u hymroddiad i iechyd meddwl pobl ifanc. Bu eu hangerdd yn ysbrydoliaeth a’r sgwrs yn un a fydd yn seilwaith i’n gwaith am y blynyddoedd nesaf – diolch! Wedi'r drafodaeth ymunodd Manon Anoniazzi, Prif Weithredwraig y Senedd gyda'r panel i'w diolch (i'w gweld ar ei thraed yn y llun agoridol uchod). 

Dilynwch ein hymyrch #Meddyliauiauobwys ar gyfryngau cymdeithasol.

twitter:@SeneddIeuenctid

facebook: seneddieuenctidcymru

instagram: SeneddIeuenctidCymru