Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Calen Jones

Calen Jones

Blaenau Gwent

Roedd Calen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Calen Jones

Bywgraffiad

Roedd Calen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • Pleidleisio yn 16 oed
  • Datblygu chwaraeon ar lawr gwlad

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn enghraifft wych o ddemocratiaeth.

Mae'n sicrhau bod gan bawb, yn cynnwys yr ieuenctid, y gallu i gyflawni newid ac mae’n sicrhau y clywir eu barn hwy. Rwy’n dymuno bod yn rhan o'r senedd hon gan fy mod i’n credu y gallaf lynu at geisiadau a barn fy etholwyr ym Mlaenau Gwent. Rwyf hefyd yn credu'n gryf yn y 3 mater allweddol a amlinellwyd gan eu bod yn rhai o'r pynciau mwyaf sylfaenol y mae angen eu hadolygu er mwyn cyflawni newid er gwell.

Er mwyn sicrhau y clywir barn pob person yn fy etholaeth, byddaf yn cynnal ymgynghoriadau yn ogystal â siarad yn unigol â phobl mewn ysgolion i glywed eu barn a gwrando ar ddadleuon ynghylch rhai materion penodol.

Mae gen i berthynas benodol â phobl ifanc Blaenau Gwent ac rwy’n deall beth sydd ei angen i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth ac i greu cymuned lle mae gwahanol farn a syniadau yn cael eu parchu.

Fi yw'r prif fachgen yng nghyfnod uwchradd Ysgol Ebbw Fawr ac rwy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gwleidyddiaeth y tu mewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.

Mae gen i’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r swydd hon a gall fy agwedd gadarnhaol gyflawni newid cadarnhaol i Flaenau Gwent.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 03/05/2021
;

Digwyddiadau calendr: Calen Jones