Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Cerys Harts

Cerys Harts

CFfI Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Amaethyddiaeth ac Amddifadedd Gwledig
  • Newid Hinsawdd
  • Iechyd Meddwl

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Cerys Harts

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Fel cadeirydd presennol fforwm ieuenctid CFfI Cymru, rwy'n angerddol am godi lleisiau pobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Fel fforwm i bobl ifanc, a gaiff ei redeg gan bobl ifanc, gwyddom mai un o'n prif faterion yw'r diffyg cyfleusterau a seilwaith rydym ni fel pobl ifanc mewn ardal wledig yn eu hwynebu, gan gyfyngu ar ein cyfleoedd am ddyfodol mwy disglair. Mudiad ffermio ydyn ni, a gallwn sicrhau Cymru gynaliadwy drwy addasu dulliau ffermio traddodiadol a chyflwyno syniadau arloesol newydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae iechyd meddwl yn bwnc pwysig i bobl ifanc heddiw ac rydym yn ymdrechu fel sefydliad i ddarparu adnoddau digonol i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn ei chael yn anodd. Fel aelodau o CFfI, mae gennym nifer o briodoleddau cadarnhaol fel sgiliau siarad cyhoeddus a thrafod yn ogystal â bod yn bobl ifanc foesegol ac empathetig, felly pwy allai fod yn well ar gyfer y swydd?

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Cerys Harts