Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Dylan Chetcuti

Dylan Chetcuti

Gorllewin Clywd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cynyddu cyfranogiad ieuenctid mewn gwleidyddiaeth
  • Yr amgylchedd
  • Iechyd meddwl

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Dylan Chetcuti

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Hoffwn ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond yng Nghymru gyfan. Rwy'n gweithio'n galed, yn gydwybodol ac yn mwynhau helpu eraill. Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn yn sicrhau nid yn unig bod fy marn fy hun yn cael ei chlywed, ond hefyd lleisiau fy nghyfoedion.

Un o fy mhrif flaenoriaethau, pe bawn i'n cael fy ethol, fyddai annog mwy o bobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan ei fod yn effeithio ar ein bywydau bob dydd. 

Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd. Materion fel cynhesu byd-eang a’r newid yn yr hinsawdd yw rhai o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, problemau y mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn poeni amdanynt. Rwyf am wneud cymaint ag y gallaf i helpu i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd.

Mae nifer brawychus o bobl ifanc ledled Cymru yn dioddef o iechyd meddwl gwael, problem a oedd wedi gwaethygu o ganlyniad i bandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud dilynol. Fy nod yw helpu pobl y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt, p'un a ydynt yn cael trafferth eu hunain, neu'n adnabod pobl sy'n cael trafferthion.

Byddwn ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, trwy e-bost, ac yn bersonol.

Diolch am ddarllen.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Dylan Chetcuti