Roedd Eleanor yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Cymorth iechyd
meddwl
Lleisiau pobl
ifanc B/byddar
Cefnogaeth i
ieuenctid LHDTC+
Rwy'n sefyll i fod yn aelod o’r senedd ieuenctid gan fy mod i’n gwybod bod
problemau i bobl ifanc yng Nghymru y mae angen eu trafod ond nad yw hynny’n
digwydd. Rwy'n berson da ar gyfer y swydd hon gan fy mod i’n onest a ffyddlon
iawn, ac rwy’n barod i wneud y gwaith caled a dyfalbarhau. Mae gen i synnwyr
cyffredin a gallaf gymryd cyfrifoldeb llawn am fy ngweithredoedd. Rwy’n dangos
uniondeb a blaengarwch ac rwy’n frwdfrydig iawn am y swydd hon.
Un o'm prif feysydd pwyslais fydd cynrychioli pobl ifanc lgbt+ yng Nghymru.
Dylai pob person ifanc deimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei fod yn ddiogel ac
yn cael ei dderbyn yn yr ysgol ac o amgylch y gymuned, waeth beth fo'i ryw na’i
hunaniaeth rywiol. Rwyf i hefyd yn meddwl bod angen siarad am iechyd
meddwl a’i addysgu mewn ysgolion - rydym ni’n cael ein dysgu o gyfnod mor
gynnar am fwyta'n iach ac ymarfer corff ond ceir stigma ynghylch iechyd meddwl.
Fy mhwyslais olaf fydd hybu gwybodaeth am bobl ifanc yng Nghymru sy'n
F/fyddar a Thrwm eu Clyw, a dealltwriaeth ohonynt. Mae angen clywed eu lleisiau
ac mae angen i ni fel cymdeithas chwarae rhan ymarferol i wneud yn siŵr bod hawliau a chyfleoedd pobl ifanc
F/fyddar a Thrwm eu Clyw yn gyfartal.