Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Fatma Nur Aksoy

Fatma Nur Aksoy

Dwyrain Casnewydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Y gymuned
  • Yr amgylchedd
  • Iechyd yng Nghymru

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Fatma Nur Aksoy

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Bydd dod yn aelod o Senedd Ieuenctid yn rhoi cyfle unigryw i mi i ledaenu fy ngwybodaeth ac i ymroi i ddod yn llais ar gyfer Ieuenctid Cymru.

Rwy'n rhugl mewn pum iaith: Saesneg, Cwrdeg, Twrceg, Ffrangeg, ac ychydig o Gymraeg. Rwy'n fyfyriwr yn Ysgol San Sulien, lle rwy'n cwblhau fy TGAU. Cefais fy ngeni yn Llundain, a fy ieithoedd cyntaf yw Cwrdeg a Thwrceg.

Deuthum yn aelod o'r Blaid Lafur yn Nwyrain Casnewydd am fod gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae Jessica Morden, AS Dwyrain Casnewydd, wedi bod yn fodel rôl rhagorol i mi, ac rwyf yn ei hedmygu ac yn ceisio ei hefelychu. Rwy'n fenyw ifanc hunan-sicr, allblyg a brwdfrydig sy'n anelu at wneud gwahaniaeth a bod yn llais i bobl ifanc ledled Cymru.

Fel aelod o'r Senedd Ieuenctid, rwy'n bwriadu gwella ein cymuned, ein hamgylchedd a'n hiechyd. Byddaf yn gweithio'n galed i gael mwy o ganolfannau cymunedol ar gyfer ieuenctid Cymru. Byddaf hefyd yn ceisio gwella ein hamgylchedd trwy annog pobl ifanc yng Nghymru i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol. Byddaf hefyd yn canolbwyntio ar eich iechyd a'ch llesiant yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy'n profi problemau iechyd emosiynol a meddyliol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Fatma Nur Aksoy