Roedd Ffion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Cywilyddio
corfforol
Hawliau menywod
Hawliau LHDTC+
Fy enw i yw Ffion-Hâf ac rwy'n bymtheg oed. Rwy’n ferch sydd wrth ei bodd â
Disney, Hufflepuff, yn ffeminist ac yn ferch siapus gyda llawer o farn ac awch
am gydraddoldeb. Rwyf wedi bod ar gynghorau ysgol ddwywaith ac rwyf yn aelod
gweithgar o'r pwyllgor gwrth-hiliaeth ac islamoffobia, y pwyllgor
ffeministiaeth a phwyllgor hawliau LGBTQ+. Ym mhob un o'r swyddogaethau hyn
rwyf wedi bod yn awdurdodol, wedi rhannu fy marn, wedi meddwl am atebion a
helpu i wneud gwahaniaeth. Mae fy natur i hefyd yn un hyderus ac yn gweithio'n
dda mewn grŵp
felly byddaf yn gaffaeliad gwych i’r Senedd.
Er gwaethaf hyn oll, yn anad dim rwy'n normal. Nid wyf i am werthu fy hun
fel bod yn rhywun penigamp gan nad wyf yn hynny, na’r gorau chwaith gan fod bob
amser rywun sy’n well, ond rwy’n normal ac rwyf i yr un fath â chi. Fel chi,
mae gen i broblemau ac anghydraddoldebau rwy’n eu hwynebu bob dydd ac fel chi
hefyd, byddwn wrth fy modd pe bydd rhywbeth y gallem ei wneud am hynny. Ond
wyddoch chi beth? Mae yna rywbeth y gallwch chi ei wneud. Os byddwch chi'n
pleidleisio drosof i, rwy'n addo y byddaf yn gwneud popeth i frwydro drosoch a
chynrychioli eich barn. Ni fyddaf yn eistedd mewn cornel a chael fy nistewi.
Byddaf yn cael fy nghlywed ac felly byddwch chithau hefyd.