Datganiad
Ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod yn credu ei
bod yn hanfodol bod Cymru yn edrych ymlaen at y dyfodol, nid yn ôl i'r
gorffennol. Fel pobl ifanc, mae dyfodol ein cenedl yn ein dwylo ni. Yn wyneb yr
argyfwng hinsawdd, COVID-19 a mudiadau cymdeithasol, fel Black Lives Matter,
rhaid inni weiddi’n uwch nag erioed ar y pwynt tyngedfennol hwn mewn hanes a
sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed. Pe bawn i'n cael fy ethol i fod yn
Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Lanelli, byddwn yn ymladd yn ddiflino i greu
dyfodol gwell i holl bobl Cymru.
Byddwn yn
ymgynghori â phobl ifanc Llanelli trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n haws nag
erioed i gyfathrebu â chynulleidfa dorfol a chael clywed eu barn yn yr oes
fodern. Byddwn yn defnyddio hyn i’m mantais fy hun i gynrychioli fy ardal yn
gywir.
Fe ddylech chi
bleidleisio drosof i, yn anad dim, gan fy mod i'n fachgen y bobl. Rwy'n wynebu’r un materion â phawb arall yn
Llanelli ac yn deall beth yw bywyd go iawn. Yn ogystal, rwy'n ddadleuwr
profiadol, cadarn a dadansoddol gyda syniadau blaengar a fydd o fudd i bawb,
nid dim ond yr un y cant uchaf