Datganiad ymgeisydd: Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y
Senedd oherwydd fel rhan o’m 12fed pen-blwydd fe wnes i ymweld â San Steffan ac
rwyf wedi astudio gwleidyddiaeth ar wahanol gyrsiau yn ystod pandemig COVID-19.
Hoffwn helpu i fynd i'r afael â'r materion allweddol yr wyf wedi'u codi a
sicrhau bod fy llais a lleisiau pobl yn fy ardal yn cael eu clywed. Rwy'n aelod
o'r Senedd Disgyblion yn Ysgol Gyfun Pontarddulais a gallaf ymgynghori â nhw
ynghylch unrhyw faterion eraill yr hoffent iddynt gael eu codi. Rwy'n mwynhau siarad yn gyhoeddus a gweithio
fel rhan o dîm, ac rwyf wedi gwneud hyn ar sawl adeg yn ystod sgowtio, dadlau,
ac wrth gynrychioli fy ysgol.