Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Iago Llyn Evans

Iago Llyn Evans

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Achub ein hamgylchedd
  • Cyfle cyfartal i bawb
  • Iechyd a lles plant

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Iago Llyn Evans

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwyf yn credu mewn creu Cymru well, sydd yn rhoi y cyfleon gorau i holl blant a phobl ifanc Cymru. Credaf fod pawb yn cael eu geni yn gyfartal. Dylai pob plentyn gael yr un cyfle i gyrraedd ei lawn botensial mewn Addysg, dim ots beth yw ei gefndir. Rhaid ceiso diddymu tlodi plant a rhoi sylw i iechyd a lles pob plentyn. Dylai amddiffyn ein hamgylchedd fod yn flaenoriaeth i bawb. I wneud hyn rhaid dysgu byw yn fwy cynaliadwy drwy roi diwedd ar blastig defnydd sengl, hybu y newid o danwydd ffosil i egni adnewyddol er enghraifft egni y gwynt, yr haul, hidro a llanw i greu Cymru werdd. Creu rhwydwaith o lonydd beicio drwy Gymru sydd yn saff ac yn hwylys i deithio i’r ysgol neu i waith. Rydw i fel person yn credu’n gryf mewn gwrando ar safbwyntiau pobl eraill, trafod a phwyso a mesur cyn dod i benderfyniad. Pe bae’r byd yn le teg a chydradd, ni fuaswn i yn gwneud yr enwebiad hwn, ond gan nad ydyw, mae angen i bobol ifanc Cymru gymeryd cyfrifoldeb i wella ein byd. Rydw i yn credu mai gwleidyddion a gwleidyddiaeth yw’r allwedd i’r newid hwn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Iago Llyn Evans