Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl
  • Anhwylderau bwyta
  • Addysg

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl:

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwy'n rhan o glwb dadlau fy ysgol a chyngor ysgol sydd newydd ei ffurfio oherwydd rwy'n angerddol am wneud gwahaniaeth yn fy nghymuned. Felly, mae'r cyfle i fod yn llais i bobl ifanc ar lefel genedlaethol yn fy nghyfareddu. Ni allaf roi mewn geiriau gymaint y byddwn i wrth fy modd yn cynrychioli pobl ifanc a sefyll yn erbyn y materion sy'n ein hwynebu gerbron y Senedd. Byddai'n golygu gymaint i mi allu dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn gweld y pwysau ar bobl ifanc ac mae llunio dyfodol fy nghenhedlaeth wedi bod yn freuddwyd i mi erioed.

Nid wyf yn gweld datblygu fy ngwybodaeth am wleidyddiaeth yn ffordd o ddod yn wleidydd, yn lle hynny rwy'n ei weld yn ffordd i wella bywydau pobl ifanc a’m helpu i ddeall sut mae penderfyniadau deddfwriaethol yn effeithio ar bobl Cymru. Rwy'n arweinydd ac yn fentor yn y bôn, ac wrth fod yn aelod o fy nhîm rygbi lleol ers sawl blwyddyn rwyf wedi dysgu sut i weithio fel tîm yn llwyddiannus a sut i gyfathrebu'n effeithiol. 

Rwy'n teimlo y gallwn wneud cyfraniad gwerthfawr ar faterion fel iechyd meddwl, anhwylderau bwyta ac addysg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: