Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jack Lewis

Jack Lewis

Cwm Cynon

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cefnogi addysg plant ar ôl COVID
  • System gredyd i bobl ifanc
  • Ymgysylltu pob myfyriwr â chwaraeon

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jack Lewis

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Sbardunwyd fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ystod Etholiad Cyffredinol 2017 oherwydd fy mod yn credu, ac yn dal i gredu, fod angen trosglwyddo pŵer yn ôl i'r bobl. Rwyf hefyd wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur yn fy etholaeth ers mis Ebrill 2020 ac yn aelod o Gyngor Ysgol Rhydywaun ers 2021. Rwyn haeddu bod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd byddaf yn mynegi fy syniadau ar sut y gallwn wella bywydau ac addysg cenedlaethau'r dyfodol. Byddaf hefyd yn ceisio cael cynulleidfa mor eang â phosibl, felly byddaf yn ymgysylltu â phobl ifanc yn fy ardal drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Os caf fy ethol, byddwn yn ymdrechu i weithredu fy syniadau, gan gynnwys cymorth ychwanegol i bobl ifanc yn eu haddysg ar ôl COVID i helpu myfyrwyr i addasu. Hefyd, byddaf yn pwyso am fwy o weithgareddau mewn addysg gorfforol i ymgysylltu â PHOB myfyriwr a'u cadw'n heini ac yn iach. Yn olaf, hoffwn weld system gredyd yn cael ei chyflwyno i bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n dod o aelwydydd tlotach, gan roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i brynu hanfodion. Os hoffech weld y rhain a syniadau eraill yn cael eu gweithredu, yna credaf mai fi yw'r ymgeisydd cywir.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Jack Lewis