Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Katie June Whitlow

Katie June Whitlow

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Anabledd Dysgu Cymru

Roedd Katie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Katie June Whitlow

Bywgraffiad

Roedd Katie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwasanaethau Addysg
  • Y Gymuned
  • Hyfforddiant

Katie ydw i, dwi'n 17 mlwydd oed ac rwyf wedi cael trafferth gydag amryw o anawsterau iechyd a dysgu trwy gydol fy mywyd. Oherwydd fy salwch a fy anghenion dysgu ychwanegol, roeddwn i'n arfer cael trafferth gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio, rwyf wedi dysgu pwysigrwydd bod yn optimistaidd ac i addasu i fy salwch. Rwyf wedi cael fy nghanmol am fy ngallu i roi gwybod i eraill am fy anabledd ac am godi ymwybyddiaeth am glefyd Von Willierband, ac rwy'n dymuno helpu eraill i godi ymwybyddiaeth o'u hanableddau.

Pan oeddwn yn iau, roeddwn yn arfer bod yn ofnadwy o swil; fodd bynnag, wrth i mi dyfu'n hŷn a dod o hyd i fy angerdd am lyfrau a drama, rwyf wedi dod yn berson hyderus iawn. Gyda'r hyder newydd hwn, rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i fy llais ac rwy'n edrych ymlaen at allu defnyddio fy llais i gynrychioli eraill sydd ag anableddau fel fi. Rwyf bob amser yn falch o glywed barn eraill fel y gallwn rannu a thrafod gwahanol syniadau mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar. Rwyf yn ddibynadwy, yn dda gyda phobl, ac rwy'n ei chael yn eithaf hawdd gwneud ffrindiau a gwneud i eraill deimlo'n gyfforddus yn fy mhresenoldeb gyda fy mhersonoliaeth hwyliog a llon. Rwy'n teimlo'n gryf ynglŷn รข sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau yn cael yr holl gyfleoedd y maent yn eu haeddu, a gobeithiaf y byddaf yn gallu cynrychioli pobl ifanc ag anableddau yn y ffordd orau.

;

Digwyddiadau calendr: Katie June Whitlow