Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Nia-Rose Evans

Nia-Rose Evans

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Girl Guiding Cymru

Roedd Nia-Rose yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Nia-Rose Evans

Bywgraffiad

Roedd Nia-Rose yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl
  • Bwlio
  • Cydraddoldeb anabledd

Helo, fy enw yw Nia-Rose ac rwy'n 13 oed. Rwy'n aelod o ail uned Guides y Mwmbwls yn Abertawe, ac rwyf wedi bod yn rhan o'r teulu Guides ers i mi fod yn 6 oed.

Rwyf wrth fy modd o gael fy newis i fod yn gynrychiolydd Girlguiding Cymru yn y Senedd Ieuenctid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod barn bobl ifanc yn cael ei chlywed, ac mae'n bwysig bod pobl ifanc yn chwarae rhan wrth newid y ffordd y mae ein cymunedau yn datblygu ac yn newid er lles pawb.

Rwy'n credu fy mod yn gymwys iawn ar gyfer y rôl o ystyried mai fi yw cynrychiolydd fy nosbarth a fy mlwyddyn yn Ysgol Gyfun Bishopston. Rwy'n mwynhau siarad cyhoeddus ac rwy'n berson cyfeillgar a chydwybodol.

Rwy'n teimlo'n gryf dros godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a'r ffordd y mae materion o'r fath yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc. Rwy'n credu bod angen rhagor o addysg yn y maes hwn a rhagor o ddarpariaeth i'r rhai sy'n wynebu materion iechyd meddwl.

Yn anffodus, mae bwlio yn realiti ym mhob ysgol, a gall bwlio gael effeithiau hynod ddinistriol. Credaf fod angen rhagor o addysg mewn ysgolion ar effaith ymddygiad o'r fath a chamau i rymuso y rhai sy'n cael eu bwlio.

Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ein cymdeithas yn ceisio lleihau'r defnydd o blastig, gan reoli ysbwriel i warchod ein hamgylchedd.

Yn olaf, rwy'n credu mewn cyfleoedd cyfartal i bobl ag anableddau, boed yn gorfforol neu'n feddyliol, yn ein cymunedau. O ganlyniad, rwy'n credu bod angen cymryd camau pellach i gynnwys pobl anabl a bod angen derbyn amrywiaeth.

Fel cynrychiolydd Guiding Cymru, hoffwn ymweld ag unedau eraill ledled Cymru i rannu fy mhrofiadau fel aelod o'r Senedd Ieuenctid a chlywed eich barn ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi o fewn eich cymunedau.

Rwy'n fwy na pharod i wrando ar eich barn a'i rhannu â'r Senedd, gan fy mod yn credu bod barn pawb yn bwysig a bod angen ei chlywed.

Diolch am gymryd yr amser i bleidleisio drosof fi. Rwy'n gobeithio y gallaf wneud gwahaniaeth ar eich rhan.

;

Digwyddiadau calendr: Nia-Rose Evans