Datganiad yr
Ymgeisydd: Ar hyn o bryd yma yng Nghymru, rydym ni'n wynebu sawl bygythiad. Mae
gennym broblemau byd eang fel newid hinsawdd a phroblemau sy'n llythrennol ar
stepen ein drws fel ail gartrefi sy'n gwthio prisiau tai i fyny a phobl leol
allan. Mae hyn yn lladd cymunedau, yn lladd ein hiaith ac yn lladd ein dyfodol
yn yr ardal. Dwi'n credu'n gryf bod angen datrysiad i'r problemau yma i sicrhau
dyfodol i Gymru. Pe bawn i’n cael fy ethol, mi fyddaf yn lleisio fy marn am y
materion hyn, yn ogystal â chludo unrhyw neges arall y mae pobl ifanc fy ardal
eisiau i mi godi yn y Senedd. Mi fyddaf yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio
gwefannau cymdeithasol, ble fydd hi'n hawdd cysylltu â mi. Credaf fy mod yn
ymgeisydd addas ar gyfer y rôl yma gan fod gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth
ac yn deall yn drylwyr beth yw'r problemau rydym ni'n eu wynebu. Mae gen i
hefyd brofiad o leisio fy marn a
chyflwyno syniadau i gynulleidfa, er enghraifft, bod yn rhan o'r fforwm
blwyddyn fy ysgol a hefyd cyflwyno fy mhrosiect menter Bagloriaeth Cymru i
elusen leol. Dwi'n gobeithio y gallaf gyfri ar eich pleidlais. Diolch.