Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Rhys Lewis

Rhys Lewis

Preseli Sir Benfro

Roedd Rhys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Rhys Lewis

Bywgraffiad

Roedd Rhys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyllid ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol
  • Rhagor o help i fyfyrwyr MATh
  • Newid y pynciau gorfodol ar gyfer TGAU

Hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod nifer o agweddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hesgeuluso, yn bennaf o ran pobl ifanc ac addysg.

Er enghraifft, mae gwasanaethau addysg yng Nghymru yn brin ar hyn o bryd ac mae cyllid ar gyfer pynciau ‘nad ydynt yn academaidd’ fel cerddoriaeth, drama a chwaraeon yn cael eu torri'n gynyddol, ac mae angen i'r llywodraeth sylweddoli, er bod Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn bynciau hynod bwysig, bod pethau eraill sydd hefyd yn bwysig.

Hefyd, er y gall fod yn ddefnyddiol, mae dewis gorfodol Bagloriaeth Cymru ar gyfer TGAU wedi lleihau nifer y pynciau y gall myfyrwyr yng Nghymru eu hastudio ar gyfer TGAU o bedwar i dri. Nid yw llawer o fyfyrwyr yn ei gymryd o ddifrif, ac felly ystyrir ei fod yn wastraff amser, a dylid ei wneud yn ddewisol.

Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn etholaeth Preseli Sir Benfro yn cael lleisio ei farn os ywn dymuno ei fynegi. Ar ôl bod yn aelod o gyngor yr ysgol mewn pedair blwyddyn ysgol wahanol, rwyn brofiadol yn y maes hwn, ac yn siaradwr cyhoeddus da.

Byddaf yn ceisio gwneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o safbwyntiau pobl ifanc ym Mhreseli Sir Benfro.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 03/05/2021
;

Digwyddiadau calendr: Rhys Lewis