Roedd Ruth yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Y cynnydd yn
nifer y bobl ddigartref
- Gostwng yr oed
pleidleisio
- Codi'r oedran ar
gyfer gofal iechyd am ddim
Rwyf eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bod llawer o
bobl yn sôn am bethau a ddylai newid ond yn ei chael hi’n anodd gwneud unrhyw
beth am hynny. Rwyf eisiau casglu barn gan bobl sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw
lais a siarad ar eu rhan yn y Senedd. Mae yna lawer o bobl sy'n rhy swil, yn
teimlo’n annifyr neu ddim yn mynd i drafferth i ddatgan unrhyw un o'u syniadau
ond rwyf eisiau eu grymuso trwy siarad ar eu rhan.
Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy wrando arnyn nhw’n ofalus,
gan gasglu eu syniadau a'u cynrychioli yn y Senedd. Byddaf yn rhoi sicrwydd i'r
bobl ifanc y bydd eu lleisiau yn bendant yn cael eu clywed
Dylai etholwyr bleidleisio drosof i oherwydd byddaf yn gweithio'n galed ac
rwy’n angerddol dros sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u hawliau yn
cael eu mynnu.
Rwy’n drefnus, yn gweithio'n galed, yn siaradwr da ac yn wrandäwr cryf.
Rwy'n credu y byddaf yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bûm
i’n aelod o'r Cyngor Ysgol am 2 flynedd. Roeddwn i hefyd yn Llysgennad Cymru am
flwyddyn. Rwy'n gwneud gwaith elusennol gyda fy nheulu, sydd wedi cynnwys
cymryd rhan mewn teithiau cerdded 5 cilometr a thaith beic 12 cilometr.