Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Tegan Davies

Tegan Davies

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Ymwybyddiaeth o hawliau LHDTC+
  • Iechyd meddwl o ran pobl ifanc
  • Materion amgylcheddol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Tegan Davies

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Ers pan oeddwn i'n ifanc, rwyf wedi breuddwydio am fedru gwneud gwahaniaeth. Roeddwn wastad am i fy marc ar y byd, boed yn fawr neu'n fach, fod yn rhywbeth a fyddai’n cael ei argraffu mewn llyfrau hanes, hyd yn oed pe bai'r llwyddiannau hyn yn ddienw.

Rwyf bob amser wedi cael fy synnu gan botensial pobl ifanc, ac rwy’n ei gweld yn anhygoel sut y gall unrhyw un ohonom, er gwaethaf cefndir, ethnigrwydd neu gred fod â dyheadau. Fe allwn ni dyfu, a dysgu unrhyw beth a ddymunwn.

Dyna pam rwy'n llwyr gredu, waeth beth yw eich rhyw neu’ch oedran, fod pawb yn haeddu cael dweud eu dweud yn y byd maen nhw'n byw ynddo. Nid yw'r byd hwn yn gartref i'n henuriaid yn unig - ein dyfodol ni ydyw. Rydyn ni fel pobl ifanc yn haeddu cael ein clywed, ac mae ein dyfodol yn haeddu cael ei ddiogelu.

Pe bawn i’n sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, byddwn yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau y byddech yn cael cyfle cyfartal i bleidleisio ar yr hyn sy'n bwysig i chi, ni waeth pwy ydych chi. Rwy'n berson sy’n hawdd siarad â hi, ac rwy'n poeni cymaint - am y pethau sy'n wirioneddol bwysig.

Mae ein pobl ifanc yn un o'r pethau gwirioneddol bwysig hyn - rwy’n addo hynny.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Tegan Davies