Roedd Ubayedhur yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Dim digon o
arian mewn addysg
Dim digon o
arian yn y GIG
Dylid defnyddio
cynnyrch lleol
Rwy'n credu y byddwn i'n aelod da, oherwydd mae gen i lawer i gyfrannu at
Senedd Ieuenctid Cymru, megis atebion ymarferol a fydd yn hawdd i'w gweithredu
a ddylai helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny y mae pobl ifanc yn eu
hwynebu. Mae gen i brofiad mewn arweinyddiaeth gan fy mod yn bennaeth yr
Eco-bwyllgor am ddwy flynedd yn fy ysgol gynradd. Rwy'n Gymro Bangladeshi sy’n
golygu y buaswn i’n gaffaeliad gwerthfawr oherwydd fy ngallu i gyfleu barn yr
ieuenctid amrywiol i'r senedd. Yn ogystal â hyn, mae fy ysgol yn fy nghanmol am
fy ngallu i ddadlau a pherswadio, sef sgiliau a all gael eu defnyddio yn y
senedd.
Yn fy marn i, dylai pobl bleidleisio drosof fi oherwydd byddaf yn llais i’w
pryderon a'u materion yn y senedd. Gallaf wrando ar safbwyntiau a syniadau pobl
a gweithio gyda nhw. Hefyd, gallaf gymryd beirniadaeth adeiladol oddi wrthynt a
gweithio gyda nhw. Rwy'n dysgu’n gyflym a gallaf addasu i sefyllfaoedd newydd.
Yn ogystal, gallaf weithio fel unigolyn, ond pan fo angen, rwyf hefyd yn fedrus
mewn gwaith tîm.