Datganiad
Ymgeisydd: Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn ceisio datrys materion o'm
cwmpas, a phan edrychaf ar y byd y dyddiau hyn, y cyfan a welaf yw’r problemau
yn Afghanistan, y gwahaniaethu yn erbyn pobl o wahanol hil a’r gymuned LHDTC+
a'r stigma sy’n bodoli o ran iechyd meddwl. Felly dyna pam ddewisais y rhain.
Dewisais faterion
iechyd meddwl mewn ysgolion ac effaith ysgolion arno oherwydd bod cymaint o
stigma yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae'n fater pwysig oherwydd mae 2 o bob 6
person mewn ysgol yn dioddef o salwch meddwl fel iselder a phryder ar draws
Cymru, ac mae angen gwneud rhywbeth i ddatrys y mater.
Dewisais faterion
Cynhesu Byd Eang a’r effaith rydym ni’n ei chael arno, oherwydd mae'r byd yn
marw a dyma’r lle rydym ni’n byw, felly os nad oes planed ar ôl, ni fyddwn ni
ar ôl. Mae hyn yn bwysig achos ein bai ni yw hyn, ac mae angen i ni ddatrys y
broblem.
Dewisais faterion
LHDTC+ oherwydd mae gormod o straeon trist am ymateb pobl i’r gymuned LHDTC+, a
gall ysgolion chwarae rôl fawr o ran cefnogaeth a chymorth i’r gymuned LHDTC+ ifanc.
Fel aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru fe fyddwn yn helpu i roi llais i’r bobl ifanc.
Dewiswch fi fel
siaradwr ar gyfer Llais Ieuenctid Cymru. Diolch