Roedd yr Aelod hwn yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2021 i Marwth
2023.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Ail Senedd
Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Iechyd
meddwl
Bwlio
Tlodi
Datganiad yr Ymgeisydd: Rwyf yn angerddol am y materion y mae pobl ifanc yn
eu hwynebu mewn cymdeithas, yr wyf yn angerddol am wleidyddiaeth ac yn credu y
dylai ieuenctid gael llais yn y llywodraeth gan mai ni yw'r genhedlaeth nesaf,
ac yn teimlo y dylai pobl ifanc gael dweud eu dweud am eu dyfodol a dyfodol eu
gwlad. Rwy'n berson ifanc gonest ac yn gweld pob ochr ac amcan, rwy'n agored i
bob barn ac nid wyf yn gwahaniaethu, buaswn yn sefydlu cyfrifon a fforymau
cyfryngau cymdeithasol lle gallai pobl ifanc eraill anfon llythyrau ac
argymhellion, ac yn ddienw pe baent am wneud hynny, buaswn yn annog pob person
ifanc i gymryd rhan ac ychwanegu eu safbwyntiau a thynnu sylw at faterion sy'n
bwysig iddyn nhw. Buaswn yn sefydlu cyfarfodydd hefyd. Rwy'n berson
cymdeithasol a hoffwn ddysgu a darganfod syniadau newydd gan bobl eraill ac
rwy'n teimlo y gallwn gynrychioli ieuenctid Cymru yn deg a chyfleu pwynt pawb.