Roedd Arianwen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Hawliau
ieuenctid trawsryweddol mewn ysgolion
Gwahaniaethu yn
erbyn anableddau (dysgu, corfforol)
Mynediad at
gyfleusterau yng nghefn gwlad
Rwy'n credu y byddwn i'n gwneud cynrychiolydd da, rwyf i wedi byw yn ein
hetholaeth ar hyd fy oes ac rwy’n canfod fy hun yn bersonol wedi fy nhrwytho yn
iaith Cymru.
Byddwn yn mwynhau'n fawr y cyfle i gynrychioli pobl ifanc Powys gan fy mod
i’n cydymdeimlo â'r anawsterau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n cael eu magu yn ein
cymuned wledig, er enghraifft: problemau trafnidiaeth [pa un a ydych chi'n
mynychu clybiau ysgol neu'n dymuno cymdeithasu gyda ffrindiau], cefnogaeth i’r
gymuned pobl ifanc LGBTQ + a'r gwahaniaethu y maen nhw’n ei wynebu bob dydd.
Hoffwn roi llais i bobl ifanc a'r holl anawsterau unigol yr ydym ni’n eu
hwynebu yn ein bywydau beunyddiol, boed hynny'n iechyd, corfforol, anabledd
dysgu neu dim ond yr ymdrech i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng bywyd cymdeithasol/
cartref a'r ysgol. Rwy'n credu y byddai cynnal sesiwn gymunedol bob pythefnos i
bobl leol i drafod eu hawgrymiadau yn ogystal â gwerthfawrogi'r cyfarfodydd fel
lle diogel iddyn nhw gysylltu â phobl eraill yn ein helpu i greu cymuned
gryfach.
Rwyf i wedi cael fy ethol i gyngor yr ysgol yn ddiweddar ac wedi cael y
cyfrifoldeb am gyllidebu. Rwy'n credu y bydd y cyfuniadau o’m sgiliau
cymdeithasol a'm brwdfrydedd i helpu a chynorthwyo pobl yn fy ngwneud yn
ymgeisydd rhagorol.