Datganiad yr
Ymgeisydd: Y rheswm yr wyf yn gwneud cais i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid yw
oherwydd credaf fod gennyf yr hyn sydd ei angen i ddod yn aelod. Credaf y bydd
angen fy mhenderfyniad, aeddfedrwydd emosiynol ac aeddfedrwydd yn gyffredinol
yn y Senedd. ‘Dyw fy syniadau gwych a dealltwriaeth bob amser fyth yn dod i
ben, ac mae'r ymdrech i wneud pobl eraill yn falch ohonof yn tanio fy
mhenderfyniad. Rwy'n addo gwneud fy ngorau i fod yn llais uchel y bydd pawb yn
gallu gwrando arno dros bobl ifanc a glaslanciau Cymru.
Oherwydd diffyg
pobl ifanc yn fy ardal, bydd yn anodd ymgynghori â nhw. Ond buaswn yn rhoi
gwybod iddynt eu bod yn cael eu cynrychioli gan rywun nad oedd ganddo lais, yn
union fel nhw, mai fi yw’r newid y maent am ei weld. A byddant yn gwybod y bydd
eu lleisiau'n cael eu clywed drwy ddefnyddio fy mhrofiadau uniongyrchol fy hun
iddynt ddeall nad ydym yn wahanol o ran yr hyn rydym yn ei ddymuno. A nawr ei
fod wedi ei glywed, byddaf yn gwneud yr hyn sydd ei angen ar eu cyfer. Byddaf
yn nodi eu syniadau o ran yr hyn sydd orau i'r ieuenctid yn eu barn hwy, a
chyda'n syniadau ni, bydd Cymru'n dod yn wlad well a mwy diogel.