Roedd Casey-Jane yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Iechyd meddwl
- Ieuenctid LHDT
- Gwrth-fwlio
Rwyf am fod yn aelod or senedd ieuenctid gan fy mod in teimlo'n gryf iawn
am y materion rwyf i wedi ysgrifennu amdanyn nhw uchod ac rwyn dwlu ar le rwy'n
byw ac os gallaf helpu fy nghymuned mewn unrhyw ffordd byddaf yn gwneud hynny.
Pe bawn i'n cael fy newis i fod yn rhan o'r senedd ieuenctid, byddwn in
casglu safbwyntiau pawb ar unrhyw beth rwyn ei drafod.
Byddaf in cynnal arolygon ar-lein, ac yn ymweld ag ysgolion i gynnal
arolygon ⒲ rhai sydd am gael llais, a byddwn i hefyd yn trefnu cyfarfodydd i drafod
gwahanol bethau, byddwn i'n gweithio'n galed iawn i roi llais i bawb drwyr
cyfrwng a gefais i gan fy mod in gwybod sut mae'n teimlo heb fod ag un.
Rwy'n wrand䷲ da, rwy'n hynod o angerddol am yr hyn rwy'n ei wneud, rwyf hefyd yn
llysgennad Ieuenctid ar gyfer Bullieout. Dylai pobl bleidleisio drosof i gan fy
mod i'n gweithio'n galed iawn ac ni fyddaf yn ildio heb frwydro.
Rwyn ystyriol iawn ac os byddaf in anghywir, byddaf yn dweud fy mod in
anghywir, ond os wyf i'n gwybod fy mod yn iawn byddaf yn mynegi hynnyn glir.