Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Efan Rhys Fairclough

Efan Rhys Fairclough

Pontypridd

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Efan Rhys Fairclough

Bywgraffiad

Roedd Efan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyfleoedd inni gyflawni ein gorau
  • Campfeydd a phyllau nofio am ddim
  • Cymru di-blastig, a gwell trafnidiaeth

Dwi wastad wedi byw ym Mhontypridd. Dwi wrth fy modd yma ond dwi am iddi fod yn ardal hapusach, egnïol a chyffrous i bobl ifanc.

Dylai fod pawb yn gallu cyflawni eu gorau ym Mhontypridd a chael yr un cyfleoedd â phobl o ardaloedd llewyrchus.

Mae angen cyfleusterau arnom sy'n ein galluogi i ffynnu -i’n herio a chadw’n meddyliau a'n cyrff yn iach. Dylai fod gan bobl ifanc fynediad am ddim i gampfeydd cyhoeddus lleol, canolfannau hamdden a phyllau nofio. Mae angen mwy o adnoddau meddwlgarwch ar ein hysgolion hefyd – gall unrhyw un gael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl ar unrhyw adeg.

Mae achub ein planed rhag dinistr wedi cael ei adael i'n cenhedlaeth ni. Mae angen cymryd cyfrifoldeb. Dylem greu Cymru sy'n rhydd o blastig untro a gwella llwybrau bysiau, trenau a beiciau.

Byddaf hefyd yn gweithio i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth unigryw Pontypridd.

Gallwch ymddiried ynof i fod yn llais cryf i bobl ifanc Pontypridd. Rydw i wedi gwneud profiad gwaith yn San Steffan, rydw i ar fy nghyngor ysgol ac rwy'n aelod o fforwm ieuenctid RhCT. Rwy'n credu'n gryf mewn tegwch a chydraddoldeb. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod ein lleisiau'n cyfri.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 03/05/2021
;

Digwyddiadau calendr: Efan Rhys Fairclough