Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Eleri Griffiths

Eleri Griffiths

Cwm Cynon

Roedd Eleri yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Eleri Griffiths

Bywgraffiad

Roedd Eleri yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Tlodi plant
  • Gorbryder sy'n gysylltiedig â phwysau arholiadau
  • Effaith negyddol y cyfryngau cymdeithasol

Wrth glywed am y swydd hon, roeddwn i'n hynod frwdfrydig ac yn llawn cyffro i gael cyfle i gynrychioli barn pobl ifanc yn fy ardal leol. Fy nhref i gartref yw Merthyr Tudful, er fy mod yn falch o fynychu Ysgol Gyfun Rhydywaun, ysgol uwchradd fawr cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon. Fe hoffwn fod yn rhan o'r Senedd Ieuenctid a byddwn yn mwynhau'r cyfle i ddod yn aelod etholedig. Byddai hyn yn rhoi cyfle imi leisio fy marn ar y tri phrif fater a nodwyd.

Rwyf wedi bod yn aelod etholedig o gyngor fy ysgol am 3 blynedd ac yn yr amser hwnnw rwyf wedi cael hyfforddiant helaeth ar hawliau plant. Mae'r cyngor ysgol wedi caniatáu llwyfan imi fynegi barn ac edrych ar y materion sy'n effeithio ar bobl ifanc yn fy ysgol i ac yn y gymuned leol.

Rwy'n credu y dylai pobl ifanc bleidleisio drosof i am eu bod nhw’n gallu ymddiried ynof fi i’w cynrychioli a chyfleu eu barn mewn ffordd glir, gryno. Rwy'n gymeriad rhadlon ac yn siaradwr cyhoeddus hyderus. Mae hyn yn amlwg gan fy mod i wedi cymryd rhan yn ddiweddar ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cymru o ddadl fawr yr RSPCA a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 03/05/2021
;

Digwyddiadau calendr: Eleri Griffiths