Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Ellis, rwy'n 14 oed ac yn Gymro hoyw dwyieithog balch.
Hoffwn ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn i mi allu cynrychioli fy
nghyfoedion a rhoi llais i bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol Cymru. Mae
gen i ddealltwriaeth dda iawn o wleidyddiaeth a'r effeithiau y mae'n eu cael ar
bobl ifanc yng Nghymru. Gan ddefnyddio fy nealltwriaeth yn hyn o beth, gallaf
helpu i wella bywyd pobl ifanc yng Nghanol Caerdydd a thu hwnt. Mae
gwleidyddiaeth wedi bod yn ddiddordeb i mi ers amser maith. Yn ddiweddar, bûm
yn ddigon ffodus i allu cwrdd â gwleidyddion o amrywiaeth o bleidiau. Ar hyn o
bryd rwy'n aelod o Fwrdd Ieuenctid Caerdydd a'r Fro, sy'n cynnwys gweithio gyda
sawl sefydliad gwahanol i sicrhau gwell ffordd o fyw i bobl ifanc. Pe bawn i'n
cael fy ethol, byddwn yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl, hawliau LHDTQ+
a chwricwlwm ysgolion. O’m profiadau fel disgybl, credaf y gallaf wneud addysg
yn amgylchedd mwy cefnogol a chynhwysol i blant a phobl ifanc Cymru.