Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffion Fairclough

Ffion Fairclough

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Lleihau costau trafnidiaeth cyhoeddus
  • Cefnogi dysgwyr anghenion dysgu ychwynegol
  • Gwella cyfleoedd yn y Cymoedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffion Fairclough

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd : Rwy’n dda am wrando, rwy’n angerddol dros fy ardal, ac rwy’n gallu cynnig llais cryf i bobl ifanc Cymru.  Dyna pam hoffwn fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd – i gynrychioli pobl ifanc o bob cefndir ac i sicrhau tegwch, cyfiawnder a chwarae teg i’r genhedlaeth hon. Byddaf yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyfathrebu gyda phobl ifanc, ac ymgysylltu gyda grwpiau gwahanol er mwyn deall a thrafod yr heriau sy’n eu hwynebu. Rwy’n ferch 16 oed sydd wedi profi nifer o’r anhawsterau sy’n gyffredin ymhlith pobl ifanc yn enwedig ar ôl cyfnod clo mor hir - ac mi allwch ddibynnu arnaf i gynnig atebion cadarnhaol a gwneud gwahaniaeth. Dwi'n berson cyfeillgar, optimistaidd sy’n agored i syniadau newydd er mwyn sicrhau fod pob person yn cael ei glywed. Rwy’n gweithio yng nghlybiau i bobl ifanc yr ardal, gan gynnwys pobl ag anghenion ychwanegol, ac rwy’n deall yr angen ar gyfer adnoddau ychwanegol a gwasanaethau er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cyflawni eu potensial – beth bynnag yw eu cefndir a lle bynnag maen nhw’n byw. Mae angen cynnig gobaith a chreu dyfodol gwell i bobl ifanc Cymru, ac rydw i am chwarae fy rhan wrth sicrhau hynny.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/01/2021 -
;

Digwyddiadau calendr: Ffion Fairclough