Datganiad
Ymgeisydd: Yn 2020, rhoddwyd yr hawl i bobl ifanc dros 16 oed bleidleisio, ond
dim ond 46% o bobl ifanc 16-17 oed a gofrestrodd i bleidleisio.
Roedd hwn yn
gyfle a wastraffwyd i sicrhau bod llais ieuenctid yn cael ei glywed a'i
gynrychioli yn Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgyrchydd
amgylcheddol Greta Thunberg wedi dangos nad ydych fyth yn rhy ifanc i gael gwir
effaith mewn gwleidyddiaeth.
Yr Amgylchedd yw
un o bwerau datganoledig Llywodraeth Cymru ac mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu
mai hon yw’r agenda fwyaf brys y byddaf yn ei gwthio.
Yn gysylltiedig â
hyn, mae Trafnidiaeth yn fater byd-eang lle gallwn wneud gwahaniaeth
gwirioneddol ar lefel genedlaethol - a hyd yn oed yn lleol.
Addysg yw'r
trydydd pŵer
datganoledig y byddwn yn ei wneud yn flaenoriaeth gan fod angen inni fynd i'r afael
â materion sgiliau a wnaed gymaint gwaeth gan yr ymyriadau oherwydd y pandemig.
Ar ben hynny, bob dydd, mae merch yn colli'r ysgol oherwydd tlodi mislif.
Mae gan Senedd
Ieuenctid Cymru rôl allweddol i'w chwarae o ran cynnwys pobl ifanc mewn
gwleidyddiaeth. Fel cyn-Bennaeth Cyngor Ysgol, mae gennyf yr hyder, yr angerdd
a'r brwdfrydedd i'ch cynrychioli a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Byddaf yn
ymdrechu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc.