Datganiad yr
Ymgeisydd: Rydw i am fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn llais
ieuenctid yn fy etholaeth, i roi cynrychiolaeth go iawn i leisiau pobl
ifanc. Rydw i am i lais fy etholwyr gael
ei glywed yn glir, ac rydw i am godi materion sy’n bwysig iddyn nhw yng
Nghymru.
Byddaf yn
ymgynghori â phobl ifanc drwy'r cyfrwng mwyaf hygyrch i bobl ifanc, y cyfryngau
cymdeithasol. Byddaf yn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu anfon neges uniongyrchol
ataf i leisio unrhyw bryderon am yr ardal, ac i drafod yr hyn y byddaf yn gallu
ei wneud i wella eu hardal.
Rwy’n credu y
dylai pobl bleidleisio drosof oherwydd byddaf yn aelod hygyrch o Senedd
Ieuenctid Cymru sy'n ymgysylltu â phobl ifanc drwy'r cyfryngau
cymdeithasol. Rwy’n credu dylai pobl
ifanc bleidleisio drosof oherwydd rydw i am wrando ar eu pryderon, a rhoi
terfyn ar unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
Rwy’n credu bod
gen i lawer o brofiad sy'n drosglwyddadwy, a fyddai'n fy ngwneud i’n aelod da o
Senedd Ieuenctid Cymru. Byddai fy mhrofiad ar y cyngor ysgol ac ar banel
cynghori Comisiynydd Plant Cymru yn fy ngwneud yn ymgeisydd gwych, gan fod hyn
wedi dysgu sgiliau gwrando a chyfathrebu i mi.
Bydd y sgiliau hyn yn werthfawr dros ben wrth ymgysylltu ag etholwyr.