Datganiad yr
Ymgeisydd: Mae gen i anableddau ac rwy'n mynychu ysgol anableddau. Mae gan fy
mrawd anableddau a phroblemau iechyd meddwl hefyd felly rwy'n gwybod am yr heriau
y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu. Mae diffyg cynrychiolaeth am anableddau
mewn llyfrau, ar y teledu ac mewn bywyd yn gyffredinol. Rwyf i fy hun wedi
profi’r teimlad o beidio â chael fy nghynrychioli a gwn bod eraill hefyd. Rwy'n
gwybod ei bod yn bwysig i rywun ag anableddau deimlo y caiff ysbrydoliaeth a
chynrychiolaeth wrth weld rhywun fel fi sydd ag anabledd yn y rôl hon. Gwn fod
angen inni wrando mwy ar bobl anabl a lleisio ein barn fel y gallwn gyrraedd
ein nodau a chael yr un cyfleoedd â phawb arall.
Mae gennyf
sgiliau arwain da ac fe'm hetholwyd sawl gwaith i fod yn aelod o'r cyngor eco
a'r cyngor ysgol. Helpodd hyn fi i fagu hyder a'm hannog i siarad am faterion a
oedd yn bwysig i mi ac i eraill yn fy ysgol.
Rwy'n garedig, yn
dosturiol ac yn ystyriol felly gallaf ddeall safbwyntiau gwahanol a bod yn
agored fy meddwl.
Rwyf yn angerddol
am achosion sy'n bwysig i mi ac yn dda am wrando ar eraill am yr hyn sy'n
bwysig iddyn nhw. Byddwn yn gwneud fy ngorau i helpu i siarad drostynt.