Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Gwion Rhisiart

Gwion Rhisiart

Caerdydd Canolog

Roedd Gwion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Gwion Rhisiart

Bywgraffiad

Roedd Gwion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Prentisiaethau/Swyddi i bobl ifanc
  • Yr Iaith Gymraeg mewn ysgolion
  • Trafnidiaeth Ysgol Diogel a Safonol

Dwi eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn cynrychioli barn ieuenctid Cymru. Yn ogystal a hyn, dwi eisiau eu cynrychioli er mwyn i nhw gael llais teg yn newisiadau'r Senedd Ieuenctid. Mi fyddai'n cynnal cyfarfodydd cyson gyda etholwyr, yn ogystal a holiaduron ar-lein er mwyn clywed eu llais. Ar ôl clywed eu barn, mi fyddai'n brwydro dros eu llais yn y Senedd Ieuenctid.

Dylsai pobl ifanc fy etholaeth bleidleisio drostai gan fy mod gyda dealltwriaeth mawr o wleidyddiaeth a sut mae'r Senedd yn gweithio. Hefyd, dwi wedi cynrychioli'r ysgol yng Nghyngor Ieuenctid Caerdydd, yn ogystal a Chynhadledd y Gymanwlad.

Yn olaf, rydw i wedi gwneud prosiectau helpu'r gymuned LGBTQ+, yn cynnwys prosiect ffilm Iris, a prosiect ysgolion De Cymru. Rwy'n ddinesydd weithgar, ac rwy'n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn y gymuned, fel gwirddfodoli yn Ambiwlans St Ioan, a chodi arian i elusen. Dwi’n gwneud cymorth cyntaf yn rheolaidd, gan wirddfoddoli yn yr athletau, gwyliau bwyd a mwy. Yn ogystal a hyn, dwi wedi codi arian ar gyfer nifer o elusennau, yn yr ysgol, ac yn allgyrsiol.

Yn olaf, dwi'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd gwleidyddol, ac bydd hyn yn fy elwa'n fawr.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Gwion Rhisiart