Roedd Harrison yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Ymgysylltu
â phobl ifanc mewn cymunedau lleol
Amrywiaeth
mewn dewisiadau bwyd iach
Atal
cam-drin cyffuriau ymhlith pobl ifanc
Rwy'n dymuno bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn credu
nad oes llwyfan gwell i wneud gwahaniaeth ac y gallaf fod yn llais i sicrhau'r
newid y mae fy etholaeth eisiau ei weld. Rydw i'n cael fy mharchu gan fy
nghyfoedion ac felly byddaf yn wyneb croesawgar i'r rhai sy'n dymuno rhannu eu
syniadau. Rwy'n fwy na pharod i ymweld â chanolfannau ieuenctid lleol fel
llwyfan i ymgynghori pobl iau a'u cynrychioli.
Dylech roi eich pleidlais i fi gan fy mod yn ymwybodol o'r problemau y mae
pobl ifanc yn eu hwynebu yn ein cymdeithas ac yn teimlo'r angen i wneud yn iawn
am hynny. Byddaf yn gwrando ar eraill, yn ystyried eu syniadau ac yn sicrhau
bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Yr hyn sy'n fy gwahanu o'r gweddill yw fy
ngwybodaeth a'm diddordeb mewn gwleidyddiaeth sy'n fy ngalluogi i ddeall y
gwaith sydd wrth law a dangos fy mod yn fwy nag abl i gyflawni'r rôl.
Mae gen i brofiad yn senedd fy ysgol fel trysorydd. Yn senedd fy ysgol,
rwyf wedi annog llawer iawn o newid er gwell, ond rwy'n credu bod yn rhaid imi
symud ymhellach i lefel genedlaethol er mwyn gwneud y newidiadau rwy'n anelu
atynt.