Roedd Ifan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cryfhau
Hawliau Gweithle Pobl Ifanc
- Gwella
Trafnidiaeth Cyhoeddus
- Pynciau
yn fwy perthnasol/cyfoes
Ifan Price o Gricieth ydw i ac rwyf ar fy mlwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion
Dwyfor Pwllheli. Mae gen i ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth a hoffwn
fanteisio ar y cyfle mae Cynulliad Ieuengtid Cymru yn ei roi i mi wella fy
ardal a dysgu mwy am y byd gwleidyddol. .
Tydi siarad yn gyhoeddus a lleisio barn ddim yn ddieithr i mi – rwyf wedi
bod yn gadeirydd Cyngor Ysgol yn y Cynradd a’r Uwchradd. Dros y blynyddoedd
rwyf wedi dysgu sgiliau hanfodol i wneud yn siwr bydd eich llais chi yn cael ei
glywed yn Cynulliad Ieuenctid ac ar lwyfan genedlaethol.
Fy mlaenoriaeth i fydd
1. Cryfhau a
gwella hawliau pobl ifanc wrth iddyn nhw ymgymryd a swyddi ar
benwythnosau/cyfnod gwyliau
2. Gwella
trafnidaieth cyhoeddus
3. Addasu
cwricilwm ysgolion i roi mwy o sylw i iechyd meddwl, sgiliau hanfodol bywyd,
sgyrsiau gyrfaoedd, iechyd rhyw a.y.y.b
O gael fy ethol fy mwriad ydi ymweld a’r ysgolion yn fy etholaeth, a chadw
cyswllt cyson ac agos gyda chi am eich pryderon, syniadau ac awgrymiadau. Hefyd
bydd fy e-bost a cyfrifon cymdeithasol ar agor ar gyfer unrhyw awgrymiadau a
chwestiynau.
Fel mae’r dywediad Saesneg yn mynd; ‘The Price Is Right’.