Roedd Ifan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Lles
Cymdeithasol
Gwasanaethau
Iechyd
Yr Iaith
Gymraeg
Mae yna 200,000 o blant mewn tlodi yng Ngymru, miloedd mwy efo problemau
iechyd meddwl, ac eraill yn cael trafferth i dalu am eu pas bws. Ac y peth
gwirion? Does ganddom ni ddim llais. Dylech bledleisio amdanaf fi oherwydd
byddwn yn gwneud yn siwr bod llais pawb yn cael ei glywed yn cynnws
lleiafrifoedd. Ni chewch eich anwybyddu mwyach os bledleisiwch amdanaf fi.
Pam fy mod yn sefyll? Oherwydd rwyf eisiau gwneud gwahaniaeth ac helpu
eraill i wneud Cymru yn wlad cydradd i bawb. Rwyf am wneud yn siwr bod llais
pobl ifanc Môn yn cael ei glywed yn y Senedd. Sut bydd fy llais yn cael ei
glywed? Bydd yn bosib fy e-bostio a chysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol i gyd
fel bod rhoi eich barn yn syml a chyflym. Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd yn
aml fel fy mod yn gallu dod wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc Môn a dangos fy mod
yn berson sydd yn meddwl am bawb - nid aelod anweledol ar lein.
Rwyf yn gyfeillgar ond yn hyderus ac am wneud yn siwr bod lleisiau pobl
ifanc Môn yn cael ei glywed yn glir yn y senedd.