Datganiad yr
Ymgeisydd: Rwy'n hoyw Cymraeg 15 oed sy'n defnyddio unrhyw ragenwau. Rwy'n
berson creadigol sy'n meddwl y byd o nheulu ac rwy'n ystyried Clwb Ieuenctid
LHDTC+ GISDA yn rhan o'm teulu estynedig. Sefydlwyd GISDA i ddarparu lloches a
chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref sy'n agored i niwed yng Ngwynedd ac rwyf
wedi ymrwymo i gynrychioli holl leisiau ein pobl ifanc ar draws GISDA.
Rwy'n berson
ifanc gweithgar ac wedi trefnu a chymryd rhan mewn protestiadau ar newid yn yr
hinsawdd ac iechyd meddwl ac rwyf hefyd wedi annerch fy ysgol ar faterion yn
ymwneud â LHDTC+ a hanes pobl croenliw, addysg rhyw LHDTC+ a materion eraill.
Roedd cynnwys lleisiau fy nghyd-ddisgyblion yn y broses honno yn bwysig i mi.
Rwyf hefyd yn trefnu grŵp
gweithredu o'r enw Protestwyr Ieuenctid y Gogledd.
Ar wahân i
brotestiadau, mae ymladd dros yr hyn sy'n iawn o fewn muriau'r Senedd hefyd yn
werthfawr ac yn bwysig iawn. Rwy'n edrych ymlaen at y profiad hwn ac mae'n
anrhydedd mawr i mi gael fy newis.
Fy nhri phwnc
allweddol yw cwricwlwm amrywiol a chynhwysol newydd, gwella gwasanaethau iechyd
meddwl ieuenctid a ffurfio cynllun argyfwng hinsawdd ar gyfer pobl ifanc.