Roedd Kelsey yn Aelod o Ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i Mawrth 2023.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Deddfau i amddiffyn bridio cŵn
Iaith Arwyddion Prydain ar y
Cwricwlwm Cenedlaethol:
Cynhyrchion mwy cynaliadwy
Hoffwn fod yn aelod o’r senedd ieuenctid oherwydd credaf y byddai'n brofiad
gwych ac rwy'n angerddol iawn am bethau, credaf fy mod yn ymgeisydd gwych i
helpu i wneud newid ar gyfer dyfodol gwell.
Byddaf bob amser yn gwrando ar farn pobl eraill ac yn eu parchu hyd yn oed
os ydynt yn wahanol i'm barn i.
Byddaf yn gofyn i amrywiaeth o grwpiau o bobl ifanc beth sydd ar eu meddwl,
beth yw eu barn a'u pryderon, i sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried ac fel
eu bod yn cael eu clywed.
Credaf y byddwn yn gwneud aelod da o’r senedd ieuenctid oherwydd fy mod yn
angerddol, yn garedig, yn ystyriol o farn pobl eraill, yn ofalgar ac yn parchu
barn pobl eraill. Rwy'n credu mewn cydraddoldeb a bod pawb yn haeddu cael eu
clywed.