Roedd Kian yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Gwastraff
plastig
- Allyriadau
carbon monocsid
- Bwydlen iachach
yn yr ysgol
Rwy’n sefyll am Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf yn angerddol am wneud
newidiadau cadarnhaol i'n cenhedlaeth, a chenedlaethau'r dyfodol i ddod. Rwyf
am helpu i ddatrys problemau a fydd yn effeithio'n fawr ar y boblogaeth ifanc
ac mae angen gweithredu ar hyn nawr. Nid yn unig byddaf yn sefyll dros fy
mhryderon ond yn sicrhau fod lleisiau pobl yn fy ardal yn cael eu clywed, achos
wedi’r cwbl, pwy fydd yn cael eu heffeithio gan newid, er gwell neu waeth. Drwy
bleidleisio i mi, byddaf yn sicrhau bod gan bobl ifanc y dyfodol gorau. Ein
cenhedlaeth ni fydd llawfeddygon, peilotiaid a pheirianwyr y dyfodol.
Rhaid inni wneud amgylchedd y gall ein pobl ifanc ffynnu ynddo, nid
amgylchedd sydd wedi cael ei ddifetha a'i esgeuluso. Ym mis Gorffennaf, allan o
dros 130 o ddisgyblion, enilles i wobr 'Disgybl y Flwyddyn', gan ddangos bod
athrawon a cyfoedion yn gwerthfawrogi fy ngwydnwch, arweinyddiaeth a gwaith
caled - rwy'n falch o gynrychioli fy nghyfoedion. Yn ddiweddar, cymeres i ran i
helpu i glirio ein traeth lleol o wastraff plastig sy'n llygru ein môr bob
dydd. Rwy'n credu y gallaf wir wneud gwahaniaeth i bobl y presennol, a'r
dyfodol.