Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Luke Parker

Luke Parker

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Roedd Luke yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Luke Parker

Bywgraffiad

Roedd Luke yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Materion sy'n effeithio ar y gymuned LHDTC+
  • Iechyd meddwl oedolion ifanc
  • Cwricwlwm am oes

Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers amser maith. Pan glywais am Senedd Ieuenctid Cymru, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Mae gen i gysylltiadau cryf â'r gymuned LGBTQ+, felly rwyf am chwarae fy rhan wrth sicrhau bod y gymuned honno yn cael ei chlywed hefyd.

Byddaf yn cyfleu barn pobl ifanc eraill drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Byddaf yn cysylltu â sefydliadau LGBTQ+ ledled Cymru i egluro'r safbwynt hwn, gan ofyn pa faterion y maent yn awyddus i mi eu codi. Byddaf yn sicrhau fy mod yn adrodd yn ôl i'r sefydliadau hyn ar ôl cyfarfodydd a digwyddiadau'r Senedd Ieuenctid ac i ofyn eu barn cyn mynd i'r cyfarfodydd a'r digwyddiadau hyn.

Rwyf wedi bod yn gynrychiolydd ar Fforwm Ieuenctid Caerffili ers dros 3 blynedd. Mae gen i lawer o brofiad o gynrychioli llais pobl ifanc, gan sicrhau bod materion yn cael eu trafod a'u datrys. Rwyf wedi gweithio ar sawl prosiect fel sefydlu grŵp LGBTQ+ yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar ymgyrch yn erbyn bwlio, sef #byebyebystanders.

Edrychaf ymlaen at gynrychioli Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili a'r gymuned LGBTQ+ yn benodol.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 12/01/2021
;

Digwyddiadau calendr: Luke Parker