Roedd Milly yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2021 i Marwth 2023.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Ail Senedd
Ieuenctid Cymru:
Rwy'n angerddol am ddefnyddio fy mhrofiadau personol i godi ymwybyddiaeth o
faterion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn
gofal. Mae'r system gwasanaethau
cymdeithasol wedi dylanwadu ar gwrs fy mywyd ac rwy'n deall yr anfanteision a
all rwystro cynnydd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â'r plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu
grwpiau Cyfranogiad a gaiff eu hwyluso gan NYAS. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Plant a Phobl
Ifanc o bob rhan o Gymru sydd wedi ymrwymo i newid cadarnhaol, eu barn hwy fydd
fy nylanwad.
Mae gennyf ddealltwriaeth fanwl o sut y gall cyfreithiau sydd wedi'u
hysgrifennu'n wael arwain at niwed, camddehongli neu esgeulustod drwy
hepgoriad. Drwy anghyfiawnderau drwy gydol fy mywyd rwy'n cael fy ysgogi i
sicrhau na ddylai unrhyw blant a phobl ifanc eraill sydd â phrofiad o fod mewn
gofal orfod mynd drwy'r un peth. Rwyf am gael effaith ar y newid hwnnw.
Byddwn yn eiriolwr cryf dros gynrychioli plant a phobl ifanc nad ydynt yn
gallu dod o hyd i'w llais eu hunain ac rwy'n wrandawr da. Rwyf wedi cwblhau
hyfforddiant Eiriolaeth Cymheiriaid a Mentora Cymheiriaid fydd, ynghyd â'm
dewisiadau Safon Uwch (Y Gyfraith, Cymdeithaseg a Hanes) yn gwella fy sgiliau i
fod yn gynrychiolydd cryf. Hefyd rwy'n aelod o Bright Sparks, y Grŵp Cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc
yng Ngaherdydd sydd â
phrofiad o fod mewn gofal.