Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Sandy Ibrahim

Sandy Ibrahim

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST)

Roedd Sandy yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Sandy Ibrahim

Bywgraffiad

Roedd Sandy yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwell cyngor ynghylch TGAU a gyrfaoedd
  • Gwell trafnidiaeth ysgol
  • Mynediad at WiFI i bawb

Byddwn yn siaradwraig dda yn Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bod cyfiawnder yn bwysig imi. Dim ond 14 oed wyf i ond yr wyf wedi dioddef gwahaniaethu mewn gwlad arall ac wedi cael llawer o brofiadau yn y bywyd hwn. Saesneg yw fy mhedwaredd iaith ac rwy’n dysgu Cymraeg. Rwy’n gwybod bod modd newid y materion sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru oherwydd bod gan wledydd eraill systemau gwahanol, da a drwg. Rwyf ond wedi bod yng Nghymru ers blwyddyn ond rwy’n sylweddoli eisoes bod pethau y gallai Llywodraeth Cymru eu newid i wneud Cymru’n lle gwell i bobl ifanc.

Mae’r tri mater rwyf wedi eu dewis i gyd ynglŷn â chyfiawnder ar gallu i gael addysg. Y cyntaf yw na chaiff plant ceiswyr lloches gyswllt gwe, teledu na chyfrifiadur yn eu tai nes y byddan nhwn ffoaduriaid felly ni allan nhw wneud gwaith ysgol. Yr ail beth yw na all nifer o bobl  ifanc Cymru fforddio cludiant ac y mae’n rhaid iddyn nhw gerdded hyd at dair milltir i’r ysgol yn y glaw, ac yn y gaeaf, yn y tywyllwch. Fe allwn ni gael ein taro’n wael ac mae hyn yn beryglus i ferched yn arbennig. Y trydydd mater yw bod angen  i ysgolion Cymru drafod dewisiadau TGAU yn briodol gyda phobl ifanc i’w helpu i ddeall sut y gall eu dewisiadau effeithio ar eu gyrfa yn y dyfodol.

;

Digwyddiadau calendr: Sandy Ibrahim